Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Cymorth Cynnar yn helpu i gydlynu’r gwasanaethau y mae eich plentyn a’ch teulu yn eu cael, a gall eu gwella. Mae’n helpu rhieni a gofalwyr i gymryd rhan fwy blaenllaw wrth wneud penderfyniadau am eu plentyn.
Mae Cymorth Cynnar yn cefnogi rhieni a gofalwyr plant anabl pum mlwydd oed a iau. Mae’n dod â’r holl wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael gan wahanol asiantaethau at ei gilydd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i deuluoedd gydlynu iechyd, addysg ac anghenion gofal cymdeithasol eu plentyn.
Bydd gan rai teuluoedd weithiwr allweddol a fydd yn darparu cyngor a chefnogaeth ac yn gallu eu helpu i ddeall y system. Mae’n bosib y bydd mwy o angen gweithiwr allweddol ar rai adegau. Gall teuluoedd benderfynu beth fydd yn gweithio orau ar eu cyfer.
Mae Cymorth Cynnar wedi datblygu ystod eang o adnoddau, cyrsiau hyfforddi a gweithdai. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rhaglen genedlaethol yw Cymorth Cynnar, sy'n cael ei chyflwyno a’i rhedeg gan gynghorau lleol ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol dros Loegr gyfan. Mae’n bosib i rai ardaloedd fod o flaen ardaloedd eraill gyda’u darpariaeth.
Dylai’r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda chi wybod a yw Cymorth Cynnar ar gael yn eich ardal chi. Os nad yw Cymorth Cynnar yn cael ei ddefnyddio eto, holwch pryd fydd yn cael ei gyflwyno ac a oes grŵp cefnogi lleol. Mae dal yn bosib i chi gael gafael ar ddeunyddiau Cymorth Cynnar, a'u defnyddio yn rhad ac am ddim.
Yn ddiweddar, cytunodd Cynulliad Cymru i ddod â Chymorth Cynnar i Gymru.
Mae Cymorth Cynnar ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn anabl o dan bum mlwydd oed, ac ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio’n gyson â phlant ifanc a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys teuluoedd sydd â:
Mae teuluoedd sydd â phlant ifanc anabl wedi dweud y byddent yn hoffi cael gwasanaethau wedi’u cydlynu, gweithiwr allweddol, mwy o wybodaeth a llai o fiwrocratiaeth.
Roedd arnynt hefyd eisiau rhoi’r gorau i orfod rhoi gwybod dro ar ôl tro am broblemau eu plentyn i bob unigolyn newydd a oedd yn dod yn rhan o ofal y plentyn, a’u bod am gael eu trin fel plentyn a theulu, nid fel achos meddygol.
Mae’r Ffeil Deulu a’r Dyddiadur Datblygiad yn helpu teuluoedd a gofalwyr i rannu gwybodaeth am eu plentyn gyda’r gweithwyr proffesiynol y byddant yn cyfarfod â hwy, heb iddynt orfod dweud yr un peth wrth bob person newydd.
Mae nifer o bobl o’r farn bod y rhaglen Cymorth Cynnar o fudd mawr. Darllenwch am brofiadau teuluoedd eraill wrth iddynt ddefnyddio Cymorth Cynnar ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.
Y cam cyntaf pwysicaf ar gyfer gofalwyr a rhieni byddar yw rhoi gwybod i'w gweithiwr allweddol neu’r prif weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â nhw, sut y byddent yn dymuno cyfathrebu. Os ydynt yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, bydd angen dehonglwr iaith arwyddion arnynt ar gyfer trafodaethau gyda phobl broffesiynol nad ydynt yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Mae gan wefan Signature (Y Cyngor ar gyfer Hybu Cyfathrebu â Phobl Fyddar ynghynt) fwy o wybodaeth ynghylch dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain i Saesneg.
Lle nad yw teuluoedd yn siarad Saesneg, neu lle nad yw un aelod yn siarad Saesneg, efallai y gall cynghorau lleol neu Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol drefnu i ddehonglwr ddod i gyfieithu yn ystod trafodaethau gyda phobl broffesiynol. Gallwch siarad â’ch gweithiwr allweddol, eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu eich cyngor lleol ynghylch hyn.
Mae llyfrynnau gwybodaeth gefndirol Cymorth Cynnar ar gael mewn ieithoedd eraill. Gallwch hefyd eu llwytho oddi ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.