Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deddf Plant 1989 a gwasanaethau gofal cymdeithasol

Cynlluniwyd Deddf Plant 1989 er mwyn cynorthwyo i gadw plant yn ddiogel ac yn iach ac, os bydd angen, i'w cynorthwyo i fyw â'u teuluoedd drwy ddarparu gwasanaethau addas ar gyfer anghenion pob plentyn.

Cyfrifoldebau awdurdodau lleol dan y Ddeddf

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd cyffredinol ar gynghorau lleol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i 'blant mewn angen' yn eu hardal hwy os bydd y gwasanaethau hynny'n cynorthwyo i gadw plentyn yn ddiogel ac yn iach. Darperir rhai gwasanaethau am ddim gan y cyngor, er y gall cynghorau benderfynu hefyd am ba wasanaethau y bydd angen i chi dalu, neu gyfrannu tuag atynt.

Gall 'plentyn mewn angen' fod:

  • yn anabl (am ddiffiniad o anabledd gweler y ddolen Deddf Plant 1989)
  • yn annhebygol o gael, neu'n annhebygol o gael y cyfle i gael iechyd neu ddatblygiad o safon resymol heb wasanaethau gan awdurdod lleol; neu
  • yn annhebygol o ddatblygu o ran iechyd neu ddatblygiad; neu
  • yn annhebygol o ddatblygu o ran iechyd neu ddatblygiad, heb dderbyn gwasanaethau gan awdurdod lleol

Rhaid i gynghorau lleol adnabod maint yr angen yn eu hardal hwy a gwneud penderfyniadau ynghylch y lefelau o wasanaeth y byddant yn eu darparu.

Beth mae'r Ddeddf Plant yn ei olygu i fy mhlentyn i?

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn yn gymwys ar gyfer derbyn gwasanaethau dan y Ddeddf Plant gallwch gysylltu â'ch tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol am 'asesiad anghenion'. Dyma lle bydd gweithiwr cymdeithasol yn siarad â chi am anghenion eich plentyn yn ogystal ag anghenion aelodau eraill o'r teulu, gan eich cynnwys chi fel gofalwr. Gallwch drafod y mathau o wasanaethau a fyddai'n diwallu anghenion eich teulu chi.

Os byddech yn hoffi i'ch plentyn gael ei asesu ar gyfer cael gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf Plant, cysylltwch ag adran wasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol, eich meddyg neu'ch ymwelydd iechyd. Byddant yn medru'ch cynghori ynglŷn â beth i'w wneud nesaf.

Dylai'r asesiad fod yn amlasiantaethol. Golyga hyn y dylai cynnwys ystyriaethau ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol ac anghenion addysgol. Dylid ei gyflawni yn unol â'r Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a'u Teuluoedd (Yr Adran Iechyd, 2000).

Gwasanaethau a ddarperir dan y Ddeddf Plant

Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i blant a theuluoedd sydd, yn ôl yr asesiad, yn gymwys i'w derbyn, a bydd y rhain yn amrywio o gyngor i gyngor. Gallai'r rhain gynnwys:

  • gwasanaethau seibiant byr
  • cynlluniau chwarae dros y gwyliau
  • gofal yn y cartref
  • rhai cymhorthion ac addasiadau
  • cymorth ariannol (er enghraifft i dalu prisiau teithio ar gyfer ymweliadau ysbyty)

Cewch hefyd ddewis derbyn taliad uniongyrchol yn hytrach na gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir gan y cyngor. Taliad arian parod a delir yn uniongyrchol i chi yw hwn, fel y bydd gennych y rhyddid i drefnu a thalu am y gwasanaethau y bydd eu hangen arnoch.

Allweddumynediad llywodraeth y DU