Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â rhieni eraill sydd â phlant anabl. Mae nifer o fudiadau ac elusennau sy'n cynnig grwpiau cefnogi. Rhestrir ychydig o'r gwasanaethau sydd ar gael isod - gallwch holi eich gweithiwr iechyd neu'ch gweithiwr cymdeithasol am grwpiau cefnogi sy'n lleol i chi.
Ceir rhai elusennau a mudiadau sy'n cynnig cymorth i bobl ag anghenion neu nam penodol. Mae'n bosib y gallant roi cyngor am unrhyw grwpiau i rieni neu grwpiau cefnogi eraill sy'n bodoli.
Gall gofalu fod yn unig ar adegau, ond mae ffyrdd o gysylltu â gofalwyr eraill, naill ai dros y ffôn, y rhyngrwyd neu drwy grŵp gofalwyr.
Efallai fod gan eich awdurdod lleol grwpiau cefnogi ar gyfer gofalwyr ac ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Efallai y gall eich awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau i'ch galluogi i gael seibiant o ofalu am eich plentyn. Er enghraifft, efallai y gellid trefnu arhosiad byr mewn cartref gofal ar gyfer eich plentyn, neu gael gweithiwr gofal cyflogedig yn eich cartref er mwyn i chi a'ch teulu gael seibiant. Gelwir gwyliau byr i ofalwyr yn 'ofal seibiant' weithiau.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch wneud cais am seibiant byr neu gael mwy o wybodaeth.
Mae'r Rhwydwaith Rhannu Gofal yn fudiad cenedlaethol sy’n darparu gwyliau byr teuluol ar gyfer plant anabl. Mae'r mudiad yn cynrychioli dros 300 o gynlluniau lleol, sy'n cysylltu plant anabl â'r bobl yn y gymuned sy'n darparu gofal tymor byr rheolaidd.
Mae Parentline Plus yn cynnal grwpiau a gweithdai yn eu swyddfeydd lleol a hefyd yn hwyluso grwpiau cenedlaethol dros y ffôn.
Er mwyn dod o hyd i grŵp sy'n lleol i chi ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 808 3555 neu dilynwch y ddolen isod a dechrau eich grŵp cefnogi lleol eich hun.