Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant i deuluoedd gan Cymorth Cynnar

Mae hyfforddiant Cymorth Cynnar wedi cael ei ddatblygu gyda theuluoedd â phlant anabl ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc anabl, er mwyn eu helpu i ddeall gwasanaethau cymorth a gwneud yn fawr ohonynt. Yma, cewch wybod am y gwahanol gyrsiau hyfforddi sydd ar gael.

Gwybodaeth am hyfforddiant Cymorth Cynnar

"Mae hyfforddiant Cymorth Cynnar wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus o lawer pan fyddaf yn siarad am fy mab gyda’r ‘arbenigwyr’. Rwyf hefyd yn gwybod bod yna lefydd i fynd a phobl i siarad â nhw os bydd arna i angen mwy o wybodaeth."

Pan fydd plentyn yn cael ei eni gydag anghenion addysgol arbennig neu anabledd, mae’n brofiad sy’n newid bywyd i lawer o deuluoedd. Bydd gan y rhieni lawer o gwestiynau ac anghenion ond efallai na fyddant yn gwybod lle i fynd am help – nac am beth i ofyn.

Efallai y byddant yn wynebu anawsterau ymarferol, neu efallai y bydd angen iddynt wneud penderfyniadau pwysig am eu plentyn a’u bod yn teimlo nad ydynt yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae hyfforddiant Cymorth Cynnar yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen ar deuluoedd i reoli eu sefyllfa newydd ac i wneud penderfyniadau doeth.

Datblygwyd yr hyfforddiant gyda chymorth ymarferwyr, rhieni, gofalwyr ac arbenigwyr ym maes plentyndod cynnar. Gall y rhieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu, aelodau eraill o’r teulu a gofalwyr fynd i bob sesiwn.

Gellir darparu hyfforddiant mewn gwahanol lefydd, ar sawl gwahanol ffurf ac mewn nifer hyblyg o sesiynau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am hyfforddiant, holwch weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal eich plentyn, neu cysylltwch â’ch darparwr hyfforddiant lleol.

Darparwyr Hyfforddiant Cymorth Cynnar

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant Cymorth Cynnar cymeradwy brofiad helaeth o hyfforddiant. Maent naill ai’n rhieni neu’n ymarferwyr lleol, neu’n gweithio i fudiad gwirfoddol. Gallant ddarparu gwybodaeth am gael mynediad at hyfforddiant a rhoi gwybod i chi am ofal plant ac am drefniadau cefnogi eraill.

Gweithdai i Rieni

Mae’r gweithdai i rieni yn gyfres o bedwar gweithdy rhyngweithiol sydd wedi’u hanelu at rieni, gofalwyr a’u teuluoedd. Byddant yn cyflwyno’r deunyddiau Cymorth Cynnar ac yn esbonio sut y gellir defnyddio’r deunyddiau i gynorthwyo teuluoedd i weithio mewn partneriaeth â phobl broffesiynol. Mae hyn yn rhoi i rieni a gofalwyr well dealltwriaeth am wasanaethau cenedlaethol a lleol, a gall wneud iddynt deimlo’n fwy hyderus pan fyddant yn mynd ati i wneud penderfyniadau am eu plentyn.

Mae’r gweithdai’n gyfle i gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae hefyd yn gyfle ‘diogel’ i rieni gael seibiant tra mae'r plentyn yn cael gofal.

Gweithdai Dyddiaduron Datblygiad

Ceir pedwar gweithdy undydd gwahanol ar gyfer rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc anabl a’u teuluoedd. Mae’r gweithdai’n helpu pawb i ddeall Dyddiaduron Datblygiad Cymorth Cynnar, a sut mae mynd ati i'w defnyddio er mwyn monitro a dathlu datblygiad a dysg plentyn.

Dyma weithdai'r Dyddiaduron Datblygiad:

  • Dyddiaduron Datblygiad ar gyfer babanod a phlant ifanc gydag anghenion arbennig neu ychwanegol
  • Dyddiaduron Datblygiad ar gyfer babanod a phlant ifanc gyda syndrom Down
  • Dyddiaduron Datblygiad ar gyfer babanod a phlant ifanc gyda nam ar y golwg
  • Protocolau monitro ar gyfer plant a babanod byddar

Gweithio mewn Partneriaeth drwy gwrs hyfforddiant Cymorth Cynnar

Mae’r cwrs hyfforddiant hwn yn eich helpu i weithio’n fwy effeithiol gyda’r ymarferwyr sy’n eich cefnogi chi a’ch teulu. Bydd yn eich helpu i ganfod eich ffordd drwy'r ddrysfa amlasiantaethol ac i godi’ch hyder wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaeth. Mae dau gwrs hyfforddi ar gael: wedi’i achredu a heb ei achredu.

Bwriad y cwrs sydd wedi’i achredu yw cynorthwyo ymarferwyr a rhieni i gydweithio'n effeithiol. Mae tri rhan i'r cwrs:

  • cyflwyniad i weithio mewn partneriaeth
  • edrych ar agweddau Cymorth Cynnar, gan gynnwys gweithio allweddol
  • gwella gweithio integredig drwy gyfrwng Cymorth Cynnar

Cefnogir pob rhan gan ddiwrnod hyfforddiant, dysgu o bell a gweithgareddau sy'n cael eu hasesu.

Mae’r cwrs nad yw wedi’i achredu yn debyg o ran amcanion a chynnwys, ond mae’n fyrrach, nid yw’r cynnwys mor ddwfn ac nid yw’n cynnwys dysgu o bell nac asesiadau.

Hyfforddiant pellach

Mae rhai teuluoedd yn croesawu hyfforddiant sy’n mynd i fwy o ddyfnder. Mae Cymorth Cynnar yn cynnig dau gwrs pellach.

Mae ‘Defnyddio Teclyn Archwilio’r Gwasanaeth’ ar gyfer unrhyw un sydd am ddefnyddio Teclyn Archwilio'r Gwasanaeth i werthuso, i gynllunio ac i wella'r dull amlasiantaethol o ddarparu gwasanaethau i blant anabl, ymarferwyr, rheolwyr, teuluoedd ac eraill.

Mae ‘Cynorthwyo Plant ag Anghenion Ychwanegol ac Anableddau’ yn helpu ymarferwyr a theuluoedd i weithio gyda deunyddiau Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar yng nghyd-destun Cymorth Cynnar.

Allweddumynediad llywodraeth y DU