Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth Cynnar – deunyddiau ac adnoddau

Mae deunyddiau Cymorth Cynnar wedi’u creu i helpu rhieni a gofalwyr plant ifanc anabl i ddeall gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i gofnodi a rhannu gwybodaeth am ddatblygiad eu plentyn ac i ddysgu am gyflyrau iechyd penodol.

Pecyn Teulu Cymorth Cynnar

Cyfres o ddeunyddiau i helpu teuluoedd i gydlynu gwybodaeth a gwasanaethau yw’r Pecyn Teulu. Mae hefyd yn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol i gynllunio'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae’r Ffeil Deulu yn rhan bwysig o’r Pecyn Teulu. Mae’n ffordd hawdd i deuluoedd rannu gwybodaeth a ffeithiau sylfaenol am eu plentyn ac am y sefyllfa deuluol gyda phobl eraill. Yn ôl teuluoedd, mae’n lleihau’r straen a’r rhwystredigaeth sy’n deillio o ailadrodd yr un pethau. Mae hefyd yn cynorthwyo i leihau’r pwysau sy’n gysylltiedig â cheisio cofio popeth mewn sefyllfa lle mae rhywun dan straen.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys llyfrynnau gwybodaeth am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i chi.

Llyfrynnau ‘Gwybodaeth Gefndir’

Mae’r llyfrynnau hyn yn darparu gwybodaeth sylfaenol ynghylch sut mae gwasanaethau’n cael eu trefnu a sut maent yn gweithio. Maent yn esbonio pa wasanaethau sydd ar gael i gynorthwyo rhieni a gofalwyr gyda phlant ifanc anabl, yn eu helpu i wybod beth ddylent ei ddisgwyl gan bob gwasanaeth ac yn egluro beth i’w ofyn.

Mae’r llyfrynnau’n esbonio ac yn diffinio gwasanaethau, swyddogaethau gweithwyr proffesiynol ac acronymau. Gall rhieni a gofalwyr ddefnyddio’r llyfrynnau i gael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen pan fydd angen.

Gallwch weld llyfrynnau am y canlynol, a’u llwytho i lawr:

  • pobl y byddwch yn cyfarfod â nhw o bosib
  • gofal plant
  • cymorth ariannol (gan gynnwys y Lwfans Byw i’r Anabl)
  • addysg
  • gwasanaethau iechyd
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • asesiadau statudol - addysg
  • mudiadau a chysylltiadau defnyddiol

Mae’r llyfrynnau gwybodaeth gefndir yn rhan o Becyn Teulu Cymorth Cynnar – byddwch yn cael y pecyn hwn pan fyddwch yn dechrau'r rhaglen.

Gallwch hefyd eu llwytho i lawr oddi ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.

Llyfrynnau ‘Gwybodaeth i Rieni’

Gall y llyfrynnau hyn fod yn ddefnyddiol pan roddir diagnosis o gyflwr penodol. Fe’u datblygwyd i ddarparu gwybodaeth allweddol sy'n ddefnyddiol yn ôl teuluoedd eraill sydd 'wedi bod yna o'r blaen', gan gynnwys cysylltiadau.

Mae rhai teuluoedd yn hoffi defnyddio’r llyfrynnau i esbonio pethau am sefyllfa eu plentyn i neiniau a theidiau, ffrindiau, gwarchodwyr plant ac ysgolion. Gallwch lwytho unrhyw un o’r llyfrynnau oddi ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig, neu archebu copi papur. Mae’r teitlau’n cynnwys:

  • Anhwylderau ar y sbectrwm awtistig
  • Parlys yr ymennydd
  • Byddardod
  • Syndrom Down
  • Os oes gan eich plentyn gyflwr prin
  • Anableddau dysgu
  • Nam amlsynhwyraidd
  • Anawsterau lleferydd ac iaith
  • Nam ar y golwg

Pan nad yw’ch plentyn wedi cael diagnosis

Cofnodi datblygiad eich plentyn gyda Dyddiaduron Datblygiad Cymorth Cynnar

"Efallai nad yw datblygiadau bach yn ymddangos yn arwyddocaol i neb arall, ond i chi fel rhiant, maent yn bwysig iawn. Mae’n gofnod positif o pryd a lle mae rhywbeth wedi digwydd."

Rhiant

Mae'r Dyddiaduron Datblygiad yn helpu teuluoedd i gadw cofnod, i ddathlu ac i rannu gwybodaeth ynghylch beth mae eu plentyn yn gallu ei wneud. Gall rhieni a gofalwyr ddod â nhw i apwyntiadau a rhannu'r wybodaeth sydd ynddynt fel nad oes angen ailadrodd gwybodaeth bwysig am ddatblygiad eu plentyn.

Gallwch lenwi’r adrannau eich hun neu gyda'r bobl eraill sy'n gweithio gyda'ch plentyn.

Mae’r Dyddiaduron Datblygiad:

  • yn canolbwyntio ar beth mae’ch plentyn yn gallu ei wneud, nid ar y pethau nad yw'n gallu eu gwneud
  • yn annog cydweithio
  • yn gwella cyfathrebu
  • yn sicrhau bod sylwadau gofalwyr amser llawn yn cael eu cynnwys yn yr asesiadau
  • yn ei gwneud yn haws siarad am y camau nesaf ar gyfer dysgu a datblygu

Gallwch ddysgu mwy am Ddyddiaduron Datblygiad a llwytho copïau oddi ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.

Llyfryn ‘Dewisiadau Doeth’

Mae’r llyfryn 'Helping you choose: making informed choices for you and your child' yn arbennig o berthnasol i deuluoedd a chanddynt blant ifanc byddar, ond mae hefyd o fudd i rieni a gofalwyr yn gyffredinol. Mae’n annog rhieni a gofalwyr plant anabl i ofyn cwestiynau fel:

  • ydyn ni’n cael y gefnogaeth a'r cymorth iawn i wneud y penderfyniadau a’r dewisiadau iawn ar gyfer ein teulu?
  • ydyn ni’n cael cynnig yr holl ddewisiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael i blant byddar a’u teuluoedd?
  • ydyn ni’n cael ein trin â pharch ac ydy ein safbwyntiau a’n barn yn cael eu parchu?

Gallwch hefyd lwytho’r llyfryn oddi ar wefan Mae Pob Plentyn yn Bwysig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU