Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofalu am rywun wrth weithio

Mae'n bosib y byddwch yn gweithio pan fydd eich rôl fel gofalwr yn cychwyn. Gallai fod yn ddefnyddiol rhoi gwybod i'ch cyflogwr am eich sefyllfa. Mae amryw o bethau y gallwch chi a'ch cyflogwr ei wneud i helpu i gyfuno eich rôl ofalu â chyflogaeth.

Siarad â’ch cyflogwr

Yn aml iawn gall pethau annisgwyl godi wrth i chi ofalu am berthynas anabl a gall trefniadau gofal fod yn gymhleth felly bydd angen i chi siarad am eich pryderon a'ch ymrwymiadau gyda'ch cyflogwr.

Meddyliwch am y ffyrdd gorau y gallai eich cyflogwr eich cynorthwyo a siaradwch â hwy am eich anghenion .

Os ydych yn dymuno gweithio, byddai er lles pennaf eich cyflogwr i ystyried gwneud newidiadau rhesymol i'ch patrwm gwaith er mwyn eich cynorthwyo i weithio a pharhau i ofalu.

Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig helpu gofalwyr. Gallai hyn gynnwys:

  • siarad â swyddog lles neu gynghorydd iechyd galwedigaethol sy'n gwybod am ofalwyr
  • rhoi gwybodaeth a chyngor neu gwnsela yn fewnol
  • derbyn tanysgrifiad i sefydliad gofalwyr neu wasanaethau ar gyfer gweithwyr

Trefniadau gweithio hyblyg

Mae sawl ffordd o weithio'n hyblyg. Gallech weithio oddi cartref neu gael amseroedd cychwyn a gorffen hyblyg.

Gallai trefniadau gweithio eraill gynnwys:

  • oriau gweithio cywasgedig (lle byddwch yn gweithio'ch oriau gwaith arferol mewn cyfnod byrach – megis gwneud pum niwrnod o waith mewn pedwar diwrnod)
  • gweithio amser tymor
  • rhannu swydd
  • gweithio rhan-amser
  • gwyliau hyblyg er mwyn cyd-fynd â threfniadau gofal amgen

Dan Ddeddf Cyflogaeth (2002) mae gan rieni plant anabl dan 18 oed, lle mae'r rhieni'n gweithio, hawl i ofyn am drefniadau gweithio hyblyg. Mae gennych hefyd yr hawl statudol i ofyn i'ch cyflogwr am gael gweithio'n hyblyg os ydych yn gofalu am oedolyn sy'n perthyn i chi neu'n byw yn yr un cyfeiriad â chi.

Trefniadau absenoldeb arbennig ac amser i ffwrdd mewn argyfwng

Bydd y mwyafrif o ofalwyr yn ymwybodol bod yr hawl ganddynt i gael absenoldeb mewn argyfwng, ond bydd trefniadau absenoldeb eraill y gallai'ch cyflogwr eu cynnig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • absenoldeb tosturiol
  • benthyca neu brynu absenoldeb
  • seibiant gyrfa

Os oes gennych gyfrifoldeb rhieniol cyfreithiol am blentyn anabl dan 18, efallai y gallwch gymryd i fyny at 18 wythnos o absenoldeb rhieniol yn ddi-dâl.

Yr hawl i amser i ffwrdd mewn argyfwng

Bydd gennych yr hawl i gymryd amser rhesymol i ffwrdd os bydd argyfwng yn ymwneud â'r sawl yr ydych yn gofalu amdano, a chithau wedi gweithio i'r cyflogwr am o leiaf blwyddyn.

Gallai achosion o argyfwng gynnwys:

  • trefniadau gofalu yn chwalu
  • os bydd y person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd yn sâl neu'n cael damwain - mae hyn yn cynnwys poen emosiynol a chorfforol
  • os bydd rhywbeth yn digwydd i'ch plentyn yn ystod oriau ysgol
  • os bydd arnoch angen gwneud trefniadau gofal tymor hir
  • os bydd angen amser i ffwrdd arnoch yn dilyn marwolaeth rhywun sy'n ddibynol arnoch

Asesiad gofalwr

Os bydd angen cymorth arnoch gyda'ch swyddogaeth fel gofalwr gallech ofyn i'ch cyngor lleol am asesiad gofalwr. Diben hyn yw canfod eich anghenion - er enghraifft, pa gymorth a allai fod ei angen arnoch er mwyn gallu gweithio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU