Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn teimlo eith bod yn methu gweithio oherwydd eich rôl fel gofalwr, ond y byddech yn hoffi gwneud hynny, mae yna ffyrdd o gael help.
Efallai y byddwch eisiau:
Os ydych wedi bod yn gofalu am rywun am dipyn, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i gyflogaeth gyflogedig. Mae’n bosib eich bod wedi colli ychydig o hyder ac yn teimlo fel eich bod wedi colli gafael ar y byd gwaith.
Fodd bynnag, fel gofalwr byddwch wedi dysgu sgiliau newydd a fyddai o bosib yn elwa cyflogwyr potensial. Mae rhai cyflogwyr yn chwilio am ofalwyr sydd wedi’r rhoi’r gorau i weithio yn y gorffennol ond nawr yn dymuno dychwelyd.
Meddyliwch am unrhyw gostau ychwanegol efallai y bydd angen i chi dalu os ydych yn dechrau cyflogaeth gyflogedig, er enghraifft, mwy o help yn y cartref.
Os nad ydych yn gyflogedig gallech siarad â:
Rhowch wybod iddynt eich bod naill ai'n gofalu am rywun ar hyn o bryd, neu nad ydych yn gofalu am rywun bellach. Gallant helpu i hwyluso'ch ffordd yn ôl i fyd gwaith a gallant hefyd eich cynghori am gyfleoedd hyfforddi.
Os ydych yn ystyried gwneud cais am swydd, mae'n werth holi beth yw polisi'ch darpar gyflogwr ar ofalwyr. Gofynnwch hefyd am gyfleoedd i weithio oriau hyblyg.
Gallai mynd yn ôl i weithio gael effaith ar unrhyw hawliau a budd-daliadau yr ydych chi fel gofalwr yn eu derbyn. Bydd yr oriau a weithiwch, faint y byddwch yn ei ennill a'ch cynilion yn cael eu hystyried. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran arian, treth a budd-daliadau.