Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gadael gwaith er mwyn gofalu am rywun

Mae’n bosib eich bod yn teimlo fel na allwch gyfuno cyflogaeth a gofalu. Cyn i chi ymddiswyddo, meddyliwch am yr opsiynau sydd gennych. Os ydych chi’n penderfynu ymddiswyddo, efallai y bydd dewisiadau eraill i’w gael yn lle ymddiswyddo.

Os ydych eisiau gofalu am rywun yn llawn amser

Gall gofalu'n llawn amser roi llawer o foddhad i rywun ac ni fyddai llawer o ofalwyr yn ystyried cael rhywun arall yn gwarchod y sawl y byddant yn gofalu amdanynt.

Fodd bynnag, bydd y mwyafrif o ofalwyr llawn amser yn gweld bod llai o arian ganddynt ac nad ydynt yn cael rhyw lawer o gyswllt cymdeithasol. Bydd rhai yn colli eu pensiwn galwedigaethol a gallant sylwi bod eu sgiliau'n dirywio.

Os byddwch yn penderfynu gofalu am rywun yn llawn amser ac yna'n dymuno mynd yn ôl i weithio gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth.

Cefnogaeth ariannol i ofalwyr llawn amser

Os ydych yn bwriadu rhoi’r gorau i weithio, mae'n debyg y byddwch yn meddwl am eich sefyllfa ariannol. Mae cefnogaeth ariannol i ofalwyr ar gael.

Dewisiadau eraill i ymddiswyddo

Efallai na fydd raid i chi ymddiswyddo er mwyn gofalu am rywun yn llawn amser. Mae'n bosib y gallai'ch cyflogwr gynnig y canlynol i chi:

  • seibiant gyrfa – mae hwn yn seibiant di-dâl o'r gwaith sy’n gallu parhau am gyfnod rhwng chwe mis a thair blynedd
  • diswyddiad gwirfoddol - os nad ydych eisiau mynd yn ôl i weithio i'r un cyflogwr a'i fod wrthi'n mynd drwy'r broses o orfod diswyddo pobl, efallai y bydd eich cyflogwr yn croesawu diswyddiad gwirfoddol
  • ymddeol yn gynnar

Siaradwch â'ch cyflogwr neu â rhywun yn eich adran adnoddau dynol er mwyn gweld a oes unrhyw un o'r opsiynau hyn ar gael i chi.

Os nad ydych chi eisiau bod yn ofalwr

Gallech siarad â theulu a ffrindiau er mwyn gweld a all unrhyw un arall ymgymryd â'r rôl o fod yn ofalwr.

Ar y llaw arall, os asesir bod angen cymorth ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano, bydd gan eich cyngor lleol ddyletswydd i ddarparu'r gofal hwnnw. Eich cyngor lleol fydd yn penderfynu pa fath o ofal a ddarperir a pha mor gyson y darperir ef. Efallai y gwelwch fod rhywfaint o'r gofal yn cael ei ddarparu ac y bydd angen i chi dalu am y gweddill.

Cyfuno gofalu a gweithio

Os ydych am gyfuno eich rôl gofalu gydag aros yn y gwaith, mae amryw o opsiynau i’w hystyried. Er enghraifft, gallwch chi weithio’n rhan-amser, o’r cartref neu rannu swydd?

Mae cyflogwyr am gadw staff gwerthfawr felly siaradwch â’ch cyflogwr am ffyrdd y gallant eich helpu i aros yn y gwaith.

Er y bydd oriau is yn cael effaith ar eich cyflog neu dâl, efallai y byddwch yn meddwl am gyfuno gwaith a gofalu fel ateb.

Allweddumynediad llywodraeth y DU