Manylion am y Cerbyd

Beth yw 'Dosbarth Treth'? Codir Treth Cerbyd ar gerbydau a ddefnyddir neu gedwir ar ffordd gyhoeddus. Mae cerbydau'n atebol i gyfraddau gwahanol o dreth sy'n cael eu rhannu i gategoriau. Gelwir y categoriau hyn yn 'Ddosbarthiadau Treth'.
Alla i ddefnyddio'r gwasanaeth os nad oes rhaid i fi dalu treth? Bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm pam eich bod wedi'ch eithrio.
Ar gyfer dosbarth treth yr Anabl pan fyddwch yn gwneud cais am treth ar-lein neu dros y ffôn rydym yn gallu gwirio'n electronaidd eich hawl i eithriad anabledd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) Agor ffenestr newydd a'r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) Agor ffenestr newydd
Alla i newid dosbarth treth y cerbyd dros y ffôn neu ar-lein? Dim ond mewn swyddfa leol y DVLA neu unrhyw Swyddfa'r Post® sy'n cyhoeddi disigau treth y gallwch chi newid treth eich cerbyd.
Ni all y gwasanaeth hwn newid dosbarth treth eich cerbyd Sut i drethu Agor ffenestr newydd.
Alla i newid fy nghyfeiriad dros y ffôn neu ar-lein? Fi yw'r ceidwad cofrestredig? Rhaid i chi lenwi eich Tystysgrif Cofrestru gyda'ch cyfeiriad newydd a'i anfon at y DVLA.
Am wybodaeth ar sut i roi gwybod am newid enw/cyfeiriad, ewch i Newidiadau i Dystysgrif Gofrestru Agor ffenestr newydd.
Rydw i wedi derbyn nodyn atgoffa ond nid gen i y mae'r cerbyd erbyn hyn. Beth ydw i fod i wneud? Mae Adran E ar gefn y nodyn atgoffa yn esbonio beth sydd angen i chi wneud.
Bydda i dramor pan fydd treth fy ngherbyd yn dod i ben. Beth ddylwn i wneud? Os ydych chi'n mynd i fod yn defnyddio'ch cerbyd dramor rhaid i chi wneud yn siwr ei fod wedi'i drethu am yr holl amser y byddwch chi i ffwrdd. Os bydd treth eich cerbyd yn dod i ben tra byddwch chi dramor gallwch wneud cais am ddisg treth hyd at ddau fis calendar cyn iddo ddod i ben. I wneud hyn, ewch â neu postiwch V10W i gangen o Swyddfa'r Post® sy'n delio gyda'r math hwn o gais neu i swyddfa DVLA leol.
  • Trethu ar-lein neu dros y ffàn i ddod o hyd i'r Swyddfa Post® agosaf sy'n delio â'r math hwn o gais, ffoniwch 0845 722 3344.
  • i ddod o hyd i'r Swyddfa DVLA leol, ffoniwch 0300 123 1277.
Byddwch hedfyd angen y canlynol
  • Eich V5CW
  • Tystysgrif yswiriant neu nodyn diogelu. Rhaid i hwn fod yn ddilys ar y dyddiad y bydd y disg yn dechrau.
  • Tystysgrif Prawf Cerbyd Nwyddau (GVT), os byddwch angen un i'ch cerbyd. Rhaid i hon fod yn ddilys ar y dyddiad y bydd y disg treth yn dechrau
  • Tystysgrif eithrio ddilys (DLA404, MHS330 neu WPA442) os ydych yn gwneud cais i drethu'r cerbyd o fewn y dosbarth treth anabl (Nid yw hyn yn berthnasol i gerbydau'r methedig).
  • LLythyr yn esbonio pam eich bod yn gwneud cais mor gynnar. Os rhowch eich cyfeiriad tramor, gallwn anfon eich disg treth newydd atoch.
Nodwch: dim on mewn swyddfa DVLA leol y gallwch trethu Cerbyd Nwyddau Trwm (HGV) drwy ddefnyddio'r ffurflen 'Cais i trethu Cerbyd Nwyddau Trwm (HGV)(V85).
Nôl i ddechraur dudalen