Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS)

Beth yw HOS? Mae Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) yn golygu y dylai'r DVLA gael gwybod, yn ôl y gyfraith, pan nad yw ceidwad cerbyd yn trethu cerbyd oherwydd nad yw'n cael ei ddefnyddio na'i gadw ar ffordd gyhoeddus. Bydd HOS yn ddilys am 12 mis onibai eich bod yn gwerthu, trethu, yn allforio'n barhaol neu'n sgrapio'r cerbyd cyn i'r 12 mis ddod i ben. Y ddeddfwriaeth sy'n cwmpasu HOS yw Rheoliadau Cerbydau'r Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002.
Am ragor o wybodaeth am HOS ewch i dudalen Sut mae gwneud HOS Agor ffenestr newydd ar Directgov.
Am ba hyd o amser y bydd datganiad HOS yn parhau? Bydd datganiad HOS yn ddilys am 12 mis onibai bod y cerbyd yn cael ei drethu, ei werthu, ei sgrapio neu ei allforio'n barhaol.
Sut fydda i'n gwybod pan fydd HOS yn dod i ben? Cyn belled â bod manylion y ceidwad cofrestredig yn gywir ar gofnodion y DVLA, byddwch yn derbyn nodyn atgoffa fydd yn rhoi'r opsiwn i chi i adnewyddu'r HOS neu wneud cais am ddisg treth.
Oes rhaid i mi wneud HOS? Oes. Mae angen dataganiad HOS ar bob cerbyd sydd wedi'u trethu ar neu ar ô 31 Ionawr 1998 os nad yw'r cerbyd wedi'i drethu. Am ragor o wybodaeth am HOS ewch i dudalen Sut mae gwneud HOS Agor ffenestr newydd ar Directgov.
Oes yna dâl am wneud HOS? Does yna ddim tâl am wneud HOS.
Pryd cafodd HOS ei gyflwyno? Cafodd HOS ei gyflwyno ar gyfer cerbydau oedd wedi'u trethu ar neu ar ôl 31 Ionawr 1998.
Beth fydd yn digwydd os nad ydych wedi trethu eich cerbyd na gwneud HOS? Mae'n drosedd i fod yn geidwad cofrestredig cerbyd nad yw wedi'i drethu na datganiad HOS wedi'i wneud arno. Os bydd trosedd wedi'i chyflawni, bydd raid i'r ceidwad cofrestredig dalu cosb ac unrhyw ôl-ddyledion treth cerbyd. Am ragor o wybodaeth am HOS ewch i dudalen Sut mae gwneud HOS Agor ffenestr newydd ar Directgov.
Sut alla i wneud HOS? Gallwch wneud HOS gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn. Os na allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gallwch wneud HOS yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy'n cyhoeddi disgiau treth neu Swyddfa Leol y DVLA (os oes gennych Gerbyd Nwyddau Trwm) gan ddefnyddio'r nodyn atgoffa..
Rydw i angen gwneud HOS ond mae manylion fy ngherbyd yn anghywir. Gallwch wneud HOS drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn ond bydd angen i chi ddychwelyd y Dystysgrif Cofrestru i DVLA, Abertawe, (mae'r cyfeiriad ar y Dystysgrif Cofrestru yn Adran 8). Llenwch Adrean 6 i mewn gyda'r manylion cywir a llonfnodwch y datganiad. Ar ô ei dderbyn, bydd cofnod y cerbyd yn cael ei ddiweddaru a bydd Tystysgrif Cofrestru newydd yn cael ei hanfon atoch.
Mae gen i ddisg dreth. Alla i ddatgan HOS a gwneud cais am ad-daliad? Gallwch wneud HOS gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn, yna gallwch wneud cais am ad-daliad treth cerbyd am unrhyw fisoedd calendar llawn sy'n weddill ar y disg treth gan ddefnyddio Cais am ad-daliad treth ar gerbyd â disg treth (V14W). Mae'r ffurflen hon ar gael mewn unrhyw Swyddfa Bost® sydd yn cyhoeddi disgiau treth neu gellir cael eu lawr lwytho o dudalen Directgov Gwneud cais am ad-daliad trwydded cerbyd (ffurflen V14W) Agor ffenestr newydd
Neu gallwch wneud HOS pan fyddwch yn gwneud cais am ad-daliad treth ar gerbyd sydd â disg treth (V14W). Anfonwch y disg treth a'r ffurflen yn ôl at y DVLA, Abertawe. Mae'r cyfeiriad ar y ffurflen.
Rydw i wedi colli'r ddisg treth. Alla i wneud HOS a gwneud cais am ad-daliad? Gallwch. Gallwch wneud HOS gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu dros y ffôn, yna gallwch wneud cais am ad-daliad treth cerbyd am unrhyw fisoedd calendar llawn sy'n weddill ar y disg treth gan ddefnyddio Cais am ad-daliad treth pan fydd y ddisg treth ar goll (V33W). Mae'r ffuflen hon ar gael mewn Swyddfa DVLA leol neu gallwch ffonio Ymholiadau Cerbydau ar 0300 790 6802 er mwyn i V33W gael i phostio atoch.
Sut mae HOS yn rhwystro rhag bod rhai'n osgoi talu treth? Cafodd HOS ei gyflwyno i wella a chynnal cywirdeb y cofnodion ar gerbydau sydd gan y DVLA. Trwy sicrhau bod pob ceidwad cofrestredig mewn cyswllt â'r DVLA o leiaf unwaith y flwyddyn, gall y DVLA sefydlu statws y cerbyd yn well.
Alla i ôl-ddyddio HOS? Na. Allwch chi ddim ôl-ddyddio HOS
Alla i wneud HOS am 6 mis yn lle 12 mis? Na allwch. Dim ond am 12 mis allwch chi wneud HOS.
Rydw i wedi gwneud HOS ond yn awr yn bwriadu defnyddio'r cerbyd, beth alla i wneud? Dylech drethu'r cerbyd cyn i chi ddefnyddio neu gadw'r cerbyd ar ffordd gyhoeddus. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein neu ffonio os yw'r Dystysgrif Cofrestru neu'r nodyn atgoffa gennych. Bydd angen yswiriant dily arnoch hefyd a naill ai Trwydded MoT neu Drwydded GVT.
Os byddaf yn gwneud HOS, oes rhaid i mi gadw fy ngherbyd oddi ar ffyrdd cyhoeddus? Oes. Mae un eithriad - pan fydd y cerbyd yn mynd i gael prawf MoT a drefnwyd ymlaen llaw a bod gan y cerbyd yswiriant dilys ar gyfer y siwrnai.
Beth ydych chi'n olygu wrth ffordd gyhoeddus? Ffordd gyhoeddus yw ffordd a gynhelir gydag arian y cyhoedd gan gynnwys ymylon glaswellt a thir cyfagos. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os oes gennych amheuon ynghylch darn o dir lle rydych am barcio'ch cerbyd.
Rydw i dramor, mae fy ngherbyd i gyda mi ac mae'r disg treth wedi dod i ben. Alla i wneud HOS? Os ydych yn defnyddio'r cerbyd dramor, ond mae'n dal wedi'i gofrestru yn y DU, rhaid trethu'r cerbyd.
Daeth y disg treth ar fy ngherbyd i ben cyn 31 Ionawr 1998. Oes rhaid i mi wneud HOS? Nag oes. Cafodd HOS ei gyflwyno ar gyfer cerbydau oedd â disgiau treth arnynt ddaeth i ben ar neu ar ôl 31 Ionawr 1998.
Rydw i'n gwerthu fy ngherbyd. Oes rhaid i mi wneud HOS? Nag oes. Dim ond os bydd y dreth yn dod i ben cyn i chi werthu'ch cerbyd a'ch bod chi'n cadw'r cerbyd oddi ar y ffordd cyhoeddus y bydd angen i chi wneud HOS.
Rydw i'n mynd â'm cerbyd allan o'r wlad yn barhaol. Oes rhaid i mi ddatgan HOS? Nag oes. Does dim rhaid i chi wneud HOS cyn belled â bod y cerbyd wed'i drethu hyd at yr amser y bydd y cerbyd yn gadael y DU. Rhaid i chi, fodd bynnag, dweud wrth y DVLA pan fydd y cerbyd wedi'i allforio. Am wybodaeth am allforio cerbyd ewch i dudalen Directgov Mewnforio ac Allforio cerbyd Agor ffenestr newydd.
Ffôn: 0870 240 0010Ffacs: 01792 782793Cyfeiriad: Uned Ymholiadau Cwsmeriaid (Cerbydau), DVLA,Abertawe, SA99 1BL
Bydd ymgynghorydd ar gael i'ch helpu: rhwng 8.00yb a 8.30yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00yb a 5.30yh ar Sadyrnau.
Rwy'n prynu cerbyd ac mae'r cyn-berchennog wedi gwneud HOS. Oes rhaid i mi wneud unrhywbeth? Nid yw HOS yn drosglwyddadwy o un ceidwad i un arall felly mae'n rhaid i chi wneud i chi wneud HOS neu drethu'r cerbyd os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r cerbyd neu ei gadw ae ffordd gyhoeddus.
Pryd mae'r Swyddfeydd DVLA Lleol ar agor? Mae Swyddfeydd DVLA Lleol ar agor: rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30am a 5.00pm ar yr 2il dydd Mercher ym mhob mis.Ar gau dros y penwythnos ac yn ystod Gwyliau Cyhoeddus.
Nôl i ddechraur dudalen