Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae delio â seiber-fwlio yn gallu bod yn anodd, i'r rheini sy'n cael eu bwlio ac i bobl sy'n ychwanegu'n ddiarwybod at ddioddefaint rhywun arall. Ond mae pethau y gallwch eu gwneud i osgoi bod yn rhan ohono ac i atal seiber-fwlio rhag lledaenu.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n arweinydd nac yn targedu rhywun yn benodol, rydych chi'n dal yn rhan o'r broblem os byddwch chi'n gwneud sylwadau difrïol ar fwrdd negeseuon ar-lein neu'n anfon llun dderbynioch chi ar eich ffôn at eich ffrindiau. Gallwch hefyd gael eich cynnwys mewn seiber-fwlio heb i chi sylweddoli.
Byddwch yn graff. Os byddwch yn derbyn neu'n dod ar draws unrhyw beth sy'n brifo, yn sarhau neu'n bygwth rhywun arall, peidiwch â chwerthin am ei ben na'i annog.
Meddyliwch sut fyddech chi'n teimlo petai hyn yn cael ei anelu atoch chi, at eich ffrind neu at aelod o'ch teulu.
Er bod pobl sy'n defnyddio'r we i dargedu a bwlio pobl eraill yn meddwl y gallan nhw aros yn anhysbys, nid yw hyn yn wir. Gellir hyd yn oed olrhain a gwahardd rhywun sy'n defnyddio enw neu gyfeiriad e-bost ffug, os yw'r rhwydweithiau cymdeithasol a darparwyr e-bost yn canfod eu bod yn euog o fwlio.
Peidiwch â chael eich temtio i wynebu'r bwli eich hun drwy ymateb iddynt mewn ffordd sydd yr un mor fygythiol â nhw. Gallech eich cael eich hun yn euog o fwlio, neu wneud eich hun yn darged i rywun arall ei fygwth. Os byddwch chi'n sylwi ar fwlio ar raglen negeseua gwib, mewn ystafell sgwrsio neu ar safle rhwydweithio cymdeithasol, rhowch wybod i weinyddwyr y wefan neu'r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd. Dylech allu gwneud hyn yn hawdd drwy'r wefan ei hun.
Os byddwch chi'n sylwi ar fwlio'n digwydd gyda ffôn symudol, cysylltwch â darparwr gwasanaeth eich ffôn.
Os byddwch chi'n dod ar draws mathau eraill o seiber-fwlio, yn enwedig rhai sy'n cynnwys hiliaeth, casineb crefyddol, homoffobia neu fygythiadau o drais go iawn, dywedwch wrth eich rhieni, wrth athro neu - os ydych yn meddwl ei fod yn anghyfreithlon - wrth yr heddlu.
Canfu'r Cynghrair Gwrth-Fwlio yn ddiweddar bod un disgybl ysgol o bob pump yn y DU wedi dioddef o ryw fath o gamdriniaeth, boed ar-lein neu gyda ffôn symudol.
Os byddwch chi'n cael problemau gyda bwlio ar-lein neu dros y ffôn, dyma rai syniadau am yr hyn y gallwch ei wneud i'ch helpu i ddelio ag ef, a'i stopio'n llwyr rhag digwydd:
Os byddwch chi'n defnyddio'r rhyngrwyd, ni ddylech fyth rannu eich manylion personol. Os byddwch chi mewn ystafell sgwrsio, gwyliwch beth ydych yn ei ddweud ynglŷn â lle'r ydych yn byw, eich ysgol, neu eich cyfeiriad e-bost.
Yn ogystal â gadael i seiber-fwli ffurfio darlun ohonoch a sut y gallant eich brifo, gall rhannu gwybodaeth bersonol hefyd ddenu oedolion sydd yn esgus bod yn bobl ifanc ac yn celu pwy ydyn nhw go iawn.
Os yw seiber-fwlio yn effeithio arnoch, a'ch bod am siarad yn gyfrinachol gyda rhywun am yr hyn y gallwch ei wneud, cysylltwch â ChildLine.
Mae pob galwad yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, ac mae'r llinell gymorth ar gael 24 awr y dydd.