Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy sy'n rheoli'r ffyrdd, y traffyrdd a gwaith ffordd

Yma cewch wybod pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ein ffyrdd, dysgu mwy am waith ffordd a phwy sy'n eu rheoli, a phwy sy'n cadw'r ffyrdd yn ddiogel yn ystod y gaeaf.

Ffyrdd lleol

Cynghorau ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ffyrdd lleol. Bydd gan y mwyafrif o gynghorau wybodaeth am waith ffordd, ffyrdd ar gau a gwyriadau yn eich ardal chi ar eu gwefannau.

Prif ffyrdd Llundain

Transport for London (TfL) sy’n rheoli Rhwydwaith Ffyrdd Transport for London (TLRN), sef y rhwydwaith 580 cilomedr o brif ffyrdd a geir yn Llundain. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys traffyrdd, sy’n cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Priffyrdd.

TfL sydd hefyd yn rheoli holl oleuadau traffig Llundain. Prif rôl TfL yw gweithredu strategaeth drafnidiaeth y Maer ar gyfer Llundain, sydd i’w gweld ar wefan TfL, a rheoli gwasanaethau trafnidiaeth drwy'r brifddinas. Gweler wefan TfL am fwy o wybodaeth.

Mae TfL yn rhedeg gwasanaeth rhybuddion traffig er mwyn helpu gyrwyr i gynllunio teithiau ac i osgoi'r oedi a ddaw yn sgil damweiniau, gwaith ffordd a digwyddiadau eraill. Mae TfL hefyd yn rhoi gwybodaeth am dagfeydd ar y ffyrdd ar hyn o bryd, gwaith sydd ar y gweill a ffyrdd sydd ar gau yn sgil digwyddiadau a gynhelir yn y brifddinas.

Caiff gweddill rhwydwaith ffyrdd Llundain (ffyrdd lleol, llai) ei reoli gan 32 bwrdeistref Llundain a Chyngor Cyffredin Dinas Llundain. Os oes arnoch angen siarad â rhywun ynghylch problem gyda ffordd leol, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.

Cefnffyrdd a thraffyrdd

Nid yw cefnffyrdd (a ddiffinnir fel y ffyrdd mwyaf strategol yn y wlad) na thraffyrdd dan reolaeth awdurdodau lleol.

Lloegr

Yr Asiantaeth Priffyrdd sy'n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd yn Lloegr.

Dilynwch y ddolen isod i lwytho map rhwydwaith o draffyrdd a chefnffyrdd Lloegr.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ffordd ac amodau traffig ar draffyrdd a chefnffyrdd, ewch i weld Traffic England ar wefan yr Asiantaeth Priffyrdd.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am draffig gan yr Asiantaeth Priffyrdd ar eich ffôn symudol. Yn syml, rhowch y ddolen ganlynol ym mhorwr eich ffôn symudol:

pan fydd hi’n ddiogel i chi wneud hynny.

Cymru

Cyfarwyddiaeth Drafnidiaeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru ar drafnidiaeth drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae Traffig Cymru'n darparu adroddiadau byw am draffig a chyngor yn ymwneud â chynllunio teithiau ar hyd y prif ffyrdd ar draws y rhanbarth drwy'r ffyrdd canlynol:

  • bwletinau yn y cyfryngau
  • llinell wybodaeth (0845 602 6020)
  • gwefan Traffig Cymru

Yr Alban

Transport Scotland, un o asiantaethau Llywodraeth yr Alban, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd a'r traffyrdd yn yr Alban. I gael gwybod rhagor, dilynwch y ddolen isod.

Mae Traffic Scotland (NADICS gynt) yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am amodau ffordd.

Gwaith ffordd

Pam mae angen gwneud gwaith ffordd?

Traffyrdd a chefnffyrdd Lloegr yw’r rhai prysuraf yn Ewrop, a theithir 153 biliwn cilomedr bob blwyddyn ar hyd rhwydwaith ffyrdd sy'n fwy na 7,000 o gilomedrau. Mae hynny’n golygu dipyn o draul!

Gyda chymaint â hyn o draffig, ni fydd arwynebau traffyrdd yn para mwy na 10 i 15 mlynedd fel rheol.

Gall gwaith ffordd gynnwys unrhyw rai o’r tasgau canlynol:

  • atgyweirio’r lôn neu roi wyneb newydd arni
  • cynnal a chadw ffensys a bariau diogelwch neu farciau ar y ffordd
  • adeiladu lonydd newydd neu ledu ffyrdd presennol
  • torri gwair ar gyffyrdd neu ar y llain ganol er mwyn gallu gweld yn well
  • glanhau systemau draenio a draeniau er mwyn osgoi difrod i'r ffordd
  • glanhau sbwriel
  • newid bylbiau golau ar y llain ganol
  • atgyweiriadau brys i’r ffordd ar ôl damweiniau traffig
  • gwaith a wneir gan gwmnïau cyfleustodau

Gwaith ffordd nad ydych yn ei weld

Gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn ystod y nos neu’n ystod cyfnodau tawel er mwyn sicrhau na fydd y gwaith yn achosi oedi i yrwyr. Os bydd arwyddion gwaith ffordd neu gonau traffig wedi’u gadael ar y ffordd er nad oes neb yn gweithio, fel rheol bydd rhesymau diogelwch dros wneud hynny, er enghraifft:

  • mae’r gwaith cynnal a chadw neu welliannau wedi effeithio ar y llain galed neu’r bariau diogelwch, ac mae angen eu diogelu dros dro
  • mae gwaith yn cael ei wneud oddi ar y brif ffordd ac o’r golwg
  • nid yw’n ddiogel i weithwyr ffordd dynnu ac ailosod y conau bob dydd

Gwaith ffordd a thagfeydd

Cyfanswm y traffig neu ddamweiniau sy’n achosi’r rhan fwyaf o oedi, nid gwaith ffordd. Yn ôl data’r Asiantaeth Priffyrdd, dyma sy’n achosi tagfeydd ar draffyrdd a chefnffyrdd yn Lloegr:

  • achosir 65 y cant gan gyfanswm y traffig
  • achosir 25 y cant gan ddamweiniau
  • achosir 10 y cant gan waith ffordd

Deall arwyddion gwaith ffordd

Ydych chi’n ansicr ynghylch arwyddion gwaith ffordd?

Mae adran Rheolau'r Ffordd Fawr ar Cross & Stitch yn cynnwys lluniau y gellir eu llwytho o arwyddion rydych yn debygol o'u gweld ger gwaith ffordd.

Rheoli’r rhwydwaith ffyrdd yn ystod y gaeaf

Y cyrff sy’n gyfrifol am ein ffyrdd sydd hefyd yn clirio rhew ac eira oddi arnynt dros y gaeaf. Mae gan awdurdodau’r priffyrdd gerbydau graeanu erydr eira a pheiriannau chwythu eira wrth law ar hyd y gaeaf. Mae rhain yn helpu i atal rhew rhag ffurfio ac eira rhag cronni ar draffyrdd a chefnffyrdd.

Am ragor o wybodaeth, gweler ‘Diogelwch mewn tywydd eithafol’.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda PHWYLLWCH! ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau

Allweddumynediad llywodraeth y DU