Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cwyn ynghylch gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat

Os bydd gennych broblem gydag ymddygiad gyrrwr tacsi neu yrrwr minicab, neu os byddwch yn tybio nad yw'r cerbyd yn drwyddedig, rhowch wybod yn syth. Yma cewch wybod beth sydd angen i chi ei wneud ac â phwy i gysylltu i wneud cwyn.

Cwyno am dacsis

Os hoffech wneud cwyn am dacsi yn Llundain, rhowch wybod yn syth i'r Swyddfa Cludiant Cyhoeddus.

Oddi allan i Lundain, rhowch wybod am eich cwyn i’r cyngor lleol perthnasol, sef naill ai’r cyngor dosbarth neu fwrdeistref neu’r awdurdod unedol.

Cwyno am gerbydau hurio preifat

Mewn perthynas â cherbydau hurio preifat, a elwir hefyd yn minicabs, gallwch geisio datrys y gŵyn trwy'r cwmni. Os na fyddwch yn hapus gyda'r canlyniad neu os ydych yn credu bod eich cwyn yn fwy difrifol na hynny, gallwch:

  • gwyno wrth y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus (PCO) yn Llundain
  • gwyno wrth eich cyngor lleol y tu allan i Lundain - bydd gan y rhan fwyaf ffurflenni cwyno am dacsi ar eu gwefannau

Beth sydd angen i chi ei gael i gwyno

Pan yn gwneud cwyn, mae’n syniad da i chi gael:

  • rhif cofrestru cerbyd y tacsi neu gerbyd hurio preifat (a welir ar y ddisg neu'r plât rhif)
  • rhif trwydded y tacsi neu gerbyd hurio preifat
  • rhif bathodyn y gyrrwr (a welir ar y bathodyn fel arfer) neu enw’r cwmni cerbydau hurio preifat

Riportio trosedd

Os bydd yr ymddygiad yn ymwneud â gweithred droseddol, dylech hefyd roi gwybod i'r heddlu. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Teithio ar y bws am ddim

Mae pobl hŷn ac anabl cymwysedig yn gymwys i deithio am ddim ar adegau tawel ar fysiau lleol yn Lloegr

Allweddumynediad llywodraeth y DU