Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod unrhyw gerbyd y byddwch yn ei logi yn ddiogel, a bod gan y gyrrwr drwydded lawn. Mae hyn yn cynnwys limosîns, cerbydau hwyl megis injan dân, neu fysiau mini. Yma, cewch wybod am y rheolau trwyddedu a sut mae sicrhau bod cwmni neu yrrwr wedi’i drwyddedu.
Os ydych chi’n bwriadu llogi cerbyd gyda gyrrwr ar gyfer noson allan, mae’n bwysig eich bod yn defnyddio gweithredwr trwyddedig. Os bydd y gweithredwr heb drwydded, efallai na fydd ei gerbydau a'i yrwyr yn bodloni gofynion cyfreithiol – gallant fod yn anniogel a heb eu hyswirio.
Pan fyddwch yn llogi cerbyd a gyrrwr at ddefnydd eich grŵp chi yn unig, bydd y drwydded y bydd ei hangen ar y gweithredwr yn dibynnu ar faint y cerbydau y mae’n yn cynnig eu llogi i chi.
Caiff cerbydau sy’n cario wyth neu lai o deithwyr ac sy'n cael eu llogi gan unigolyn neu gan grŵp yn unig eu categoreiddio’n gerbydau llog preifat. Bydd yn rhaid i’r cwmni gweithredu gael trwydded gweithredwr cerbyd llog preifat, a bydd hefyd angen trwydded gweithredwr cerbyd llog preifat ar y gyrrwr a’r cerbyd.
Caiff cerbydau sy’n cario mwy nag wyth o deithwyr eu categoreiddio’n gerbydau gwasanaeth cyhoeddus a bydd angen trwydded gweithredwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus ar y cwmni gweithredu.
Caiff cerbydau llog preifat yn Llundain eu trwyddedu’n flynyddol gan Transport for London (TfL). Mae TfL hefyd yn sicrhau bod pob cerbyd trwyddedig yn bodloni safonau diogelwch a mynediad hwylus i bawb.
Mae’n rhaid i gerbydau llog preifat yn Llundain arddangos disgiau arbennig ar eu ffenestri blaen ac ôl sy’n dangos statws eu trwyddedau.
I ddod o hyd i weithredwr cerbyd llog preifat yn Llundain, neu i archwilio gweithredwr, dilynwch y dolenni isod.
Y tu allan i Lundain, awdurdodau lleol (cynghorau dosbarth/bwrdeistref neu awdurdodau unedol) sy’n gyfrifol am drwyddedu cerbydau llog preifat a thacsis.
Mae’r rheolau ynglŷn â thrwyddedu cerbydau llog preifat yn golygu y gall awdurdod trwyddedu lleol roi trwydded cerbyd llog preifat i gerbyd os yw:
Bydd awdurdodau trwyddedu lleol hefyd yn sicrhau bod y cerbydau wedi’u hyswirio’n gywir.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pa weithredwyr sydd wedi’u trwyddedu yn eich ardal chi, drwy gysylltu â’ch cyngor lleol.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob un sy’n gyrru cerbyd llog preifat gael trwydded yrru cerbyd llog preifat. Mae'r drwydded ar wahân i'r drwydded yrru safonol.
Cyn iddynt roi trwydded yrru cerbyd llog preifat, bydd awdurdodau yn sicrhau bod yr ymgeisydd yn unigolyn sy’n ffit ac yn addas i ddal trwydded o’r fath. Bydd awdurdodau lleol yn amrywio, ond bydd eu harchwiliadau fel arfer yn cynnwys y canlynol:
Fel arfer, dylai gyrwyr cerbydau llog preifat a gyrwyr tacsis wisgo bathodyn yn dangos rhif eu trwydded. Gallwch hefyd weld a yw gyrrwr wedi’i drwyddedu ai peidio drwy gysylltu â’ch cyngor lleol.
Caiff cerbyd sy’n cario mwy nag wyth o deithwyr ei gategoreiddio’n gerbyd gwasanaeth cyhoeddus. Trwyddedir y rhain gan Gomisiynwyr Traffig.
Mae’n rhaid i gerbyd gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig ddangos disg fel yr un a ddangosir yn hanner uchaf y llun
Dylech sicrhau bod cerbyd gwasanaeth cyhoeddus wedi’i drwyddedu cyn i chi ei logi. Dylech bob amser ofyn i’r gweithredwr a yw wedi’i drwyddedu, a nodi rhif ei drwydded.
Os ydych chi am archwilio ymhellach, gallwch wneud hynny drwy ffonio llinell gymorth yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ar 0300 123 9000. Gofynnwch i ymgynghorydd VOSA archwilio rhif y cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, a gofynnwch iddo gadarnhau’r cwmni y mae’r rhif wedi'i gyflwyno iddo.
Gallwch chi wneud hyn eich hun drwy ddilyn y ddolen isod at gronfa ddata VOSA.
Mae cronfa ddata VOSA yn cynnwys pob cerbyd gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a bysiau moethus gan fwyaf). Os ydych chi am gael rhestr o weithredwyr trwyddedig, y ffordd hawsaf i’w defnyddio yw chwilio ar sail ‘enw masnachu/gweithredwr’ (operator/trading name), a rhoi term chwilio eang megis ‘*limo*’. Bydd y sêr yn galluogi'r peiriant chwilio i ddod o hyd i'r term, hyd yn oed os oes geiriau eraill cyn neu ar ôl y term yn enw’r cwmni.
Dylech osgoi llogi cerbyd gwasanaeth cyhoeddus gan gwmni nad yw’n cynnwys gyrrwr gyda'r cerbyd. Os bydd y gweithredwr yn dweud wrthych am logi gyrrwr ar wahân, ac yn rhoi rhestr i chi o yrwyr posib, mae'n debygol o fod heb drwydded ac yn gweithredu'n anghyfreithlon.
Mae cwmnïau nad ydynt wedi’u trwyddedu yn gweithredu’n anghyfreithlon ac maent yn peryglu teithwyr.
Mae hefyd yn anghyfreithlon gwerthu alcohol i deithwyr fel rhan o’r pecyn.
Os ydych yn amau bod cwmni’n gweithredu’n anghyfreithlon, gallwch ffonio llinell gymorth VOSA ar 0300 123 9000 a rhoi gwybod am y mater yn gyfrinachol.