Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae teithio mewn tacsi neu minicab yn ddiogel iawn yn gyffredinol, ond mae’n bwysig cymryd camau rhagofal, megis sicrhau bod y cerbyd yn drwyddedig. Yma cewch wybod beth y gallwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel.
Bydd unrhyw dacsi neu gerbyd hurio preifat (minicab) sydd heb drwydded yn rhedeg yn anghyfreithlon ac ni fydd wedi derbyn yr archwiliadau priodol y bydd awdurdodau trwyddedu'n eu gorfodi.
Peidiwch â defnyddio tacsi:
Mae’n syniad da:
Mae gan Transport for London (TfL) cynlluniau i wneud teithio mewn tacsi yn fwy diogel ledled Llundain.
Stiwardio arosfannau
Ledled Llundain, bydd llawer o arosfannau'n cael eu stiwardio ble bydd stiward yn sicrhau eich bod yn defnyddio tacsi sydd wedi'i drwyddedu. Bydd y stiward hefyd yn sicrhau bod y gyrrwr tacsi'n gwybod lle'r ydych am fynd.
Dim ond mewn ardaloedd penodol ac ar adegau penodol o'r nos y bydd stiwardio arosfannau ar waith, a dim ond ar y penwythnosau fel arfer.
Sicrhau bod tacsi yn drwyddedig yn Llundain
Mae Transport for London (TfL) yn rhedeg Uned Dacsis sy'n ymroddedig i gadw teithwyr yn ddiogel trwy:
Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau bod trwydded gan eich tacsi neu'ch minicab. Mae gan Adran Drafnidiaeth Llundain gronfa ddata ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio am weithwyr trwyddedig.
Gallwch hefyd decstio ‘home’ i 60835 a byddwch yn derbyn neges destun yn rhestru'r gweithwyr trwyddedig lleol.