Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat

Mae tacsis yn cael eu trwyddedu i godi pobl ar unwaith - drwy aros mewn safle tacsis, wrth i bobl godi llaw arnynt i'w stopio ar y stryd, neu ar ôl i rywun drefnu ymlaen llaw. Dim ond cwsmeriaid sydd wedi trefnu â chysylltydd trwyddedig ymlaen llaw y mae cerbydau hurio preifat (PHV, a elwir hefyd yn minicabs) yn gallu casglu.

Dod o hyd i dacsi neu gerbyd hurio preifat trwyddedig yn Llundain

Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn Llundain yn cael eu trwyddedu'n flynyddol gan Adran Drafnidiaeth Llundain (TfL). Mae TfL hefyd yn sicrhau bod pob cerbyd yn bodloni'r safonau diogelwch a hygyrchedd.

Tacsis

Maent yn gerbydau sydd wedi'u hadeiladu at eu pwrpas ac mae ganddynt blât ar gefn y cerbyd yn dangos rhif trwydded y tacsi. Mae tacsis Llundain i gyd yn hygyrch i gwsmeriaid anabl. Gallwch hurio tacsi dros y ffôn gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘One number’. Y rhif i ffonio yw 0871 871 8710.

Cerbydau hurio preifat

Trwyddedir cerbydau hurio preifat yn Llundain gan Adran Drafnidiaeth Llundain yn unol â Deddf Cerbydau Hurio Preifat (Llundain) 1988. Rhaid iddynt arddangos disgiau arbennig ar ffenestr flaen a ffenestr gefn y cerbyd yn dangos statws eu trwydded.

Mae gan dacsis a cherbydau hurio preifat uchafswm o wyth sedd ar gyfer cwsmeriaid.

Tacsis a cherbydau hurio preifat y tu allan i Lundain

Oddi allan i Lundain, cyfrifoldeb awdurdodau lleol (cynghorau dosbarth neu fwrdeistref neu awdurdodau unedol) sy'n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru a Lloegr. Mae gan awdurdodau trwyddedu lleol llais ynghylch pennu rheolau a safonau trwyddedu lleol.

Mae’r awdurdod trwyddedu hefyd yn gwneud archwiliadau fel rhan o’r proses drwyddedu. O ran trwyddedu tacsis, gall awdurdodau lleol nodi'r canlynol:

  • y math neu'r mathau o gerbydau y maent yn barod i'w trwyddedu
  • unrhyw anghenion penodol o ran lliw
  • unrhyw gyfyngiadau oed
  • pa mor aml y profir cerbydau, a pha mor llym y gwneir hynny (yn ychwanegol i'r gofynion statudol y mae'n rhaid i bob cerbyd eu bodloni)
  • a oes angen cloc tacsi
  • unrhyw ofynion yn ymwneud â mynediad i bobl anabl

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu trwyddedu cerbydau hurio preifat yn galluogi awdurdod trwyddedu i ganiatáu trwydded i gerbyd hurio preifat cyn belled â'i fod yn bodloni'r amodau canlynol:

  • mae ei fath, ei faint a'i gynllun yn addas ar gyfer cerbyd hurio preifat
  • ni fyddai cynllun ac ymddangosiad y cerbyd yn peri i berson gredu mai cerbyd hacni ydyw
  • mae mewn cyflwr mecanyddol addas
  • mae'n ddiogel
  • mae'n gyfforddus

Bydd awdurdodau trwyddedu lleol hefyd am sicrhau bod y cerbydau wedi'u hyswirio'n briodol.

Cewch wybod mwy gan eich cyngor lleol.

Canfod a yw'ch gyrrwr wedi'i drwyddedu

Cyn rhoi trwydded i yrrwr tacsi neu yrrwr cerbyd hurio preifat, rhaid i awdurdodau sicrhau bod yr ymgeisydd yn berson abl a phriodol i ddal y drwydded

Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu beth i'w gynnwys wrth farnu a yw ymgeiswyr yn abl ac yn briodol, ond byddai'r asesiad fel arfer yn cynnwys:

  • archwiliad cofnod troseddol
  • prawf gwybodaeth topograffigol
  • archwiliad meddygol
  • prawf gyrru arbennig (mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi creu prawf gyrru yn arbennig ar gyfer tacsis neu cerbydau hurio preifat)

Fel arfer, mae'n ofynnol i yrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat wisgo bathodyn yn dangos rhif eu trwydded.

Additional links

Teithio ar y bws am ddim

Mae pobl hŷn ac anabl cymwysedig yn gymwys i deithio am ddim ar adegau tawel ar fysiau lleol yn Lloegr

Allweddumynediad llywodraeth y DU