Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.
Cael gwybod sut i gyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun gyda’r DVLA
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod eich hunaniaeth a’ch data personol yn cael eu diogelu, a bydd yn cynnal profion adnabod er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod.
Drwy wneud cais ar-lein byddwch yn rhoi caniatâd i DVLA wirio eich data personol, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Bydd DVLA yn cadarnhau eich manylion gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM. Os na all DVLA gadarnhau a dilysu pwy ydych chi'n llwyr, byddwch yn cael gwybod beth i’w wneud ar ddiwedd eich cais.
Y llun ar gyfer eich trwydded
Gan nad yw DVLA yn cyhoeddi trwyddedau gyrru papur bellach bydd angen llun a llofnod arnom ar gyfer eich trwydded. Os oes gennych basbort digidol y DU, bydd DVLA yn ceisio cael y rhain yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Oni fydd hyn yn bosib, neu os nad ydych am i DVLA ddefnyddio'r llun ar eich pasbort , bydd angen i chi anfon llun drwy'r post. Ar ddiwedd eich cais ar-lein bydd DVLA yn anfon eich ffurflen cwblhau atoch er mwyn i chi ei hanfon yn ôl gyda’ch llun.
Os ydych wedi darllen a deall yr wybodaeth uchod a'ch bod am wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.
Darparwyd gan DVLA