Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir dau brif fath o yswiriant bywyd: yswiriant cyfnod ac yswiriant gydol oes. Bydd rhaid i chi farw o fewn cyfnod penodol er mwyn i gynllun yswiriant cyfnod dalu’r arian, ac mae cynllun yswiriant gydol oes yn talu’r arian pryd bynnag y byddwch chi'n marw. Mae rhai polisïau gydol oes hefyd yn cynnwys elfen fuddsoddi, ond mae polisïau buddsoddi o’r fath yn costio llawer mwy nag yswiriant gwarchod yn unig.
Dyma’r math symlaf a rhataf o yswiriant bywyd, ac fe’i gelwir yn yswiriant cyfnod am eich bod yn dewis am faint rydych chi’n cael eich gwarchod, er enghraifft 10, 15 neu 20 mlynedd (y cyfnod).
Bydd rhaid i chi farw o fewn y cyfnod rydych wedi cytuno arno er mwyn i yswiriant cyfnod dalu’r arian. Os byddwch chi’n byw’n hwy na’r cyfnod, chewch chi ddim byd. Fel cwpl, gallwch gael yr yswiriant cyfnod yn enwau’r ddau ohonoch hefyd, gyda’r polisi’n talu’r arian os bydd un ohonoch yn marw yn ystod y cyfnod.
Bydd yswiriant gydol oes yn talu swm y cytunwyd arno pan fyddwch chi’n marw.
P'un ai yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi ynteu yswiriant cyfnod rydych chi’n ei brynu, mae'n werth siopa o gwmpas. Dyma rai pwyntiau allweddol i'w hystyried:
Mae'n bosib y bydd ffactorau eraill i'w hystyried hefyd, gan ddibynnu ar y math o yswiriant rydych yn ei brynu.
Caiff cwmnïau neu froceriaid sy'n gwerthu yswiriant bywyd eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Dan reolau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, bydd rhaid iddynt roi gwybodaeth allweddol am y polisïau i chi sy’n nodi’r ffeithiau allweddol am y cynnyrch er mwyn eich helpu i siopa o gwmpas.
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth 'Check our Register' ar-lein yr Awdurdod.
Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth yn unig ar ôl chwilio o gwmpas. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a phrynu heb gyngor, a'r manteision a’r anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.