Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwarchod eich incwm neu'ch taliadau ar fenthyciad/credyd

Mae yswiriant gwarchod taliadau yn gofalu am y taliadau rheolaidd y byddwch yn eu gwneud wrth fenthyg arian neu ar gredyd os na allwch weithio yn sgîl damwain, gwaeledd neu ddiweithdra. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd yswiriant diogelu incwm yn talu incwm rheolaidd. Weithiau, gelwir y polisïau hyn yn yswiriant ASU (damwain, gwaeledd a diweithdra). Gall premiwm y rhain fod yn uchel.

Taliadau sy'n rhan o'r Yswiriant Gwarchod Taliadau

Yn dibynnu ar y polisi gall Yswiriant Gwarchod Taliadau ofalu am yr ad-daliadau canlynol (neu ganran ohonynt):

  • morgais
  • benthyciad
  • cardiau credyd/siopau
  • taliadau catalog

Cofiwch na fydd y rhan fwyaf o bolisïau Yswiriant Gwarchod Taliadau yn talu'n syth, a bydd gan y mwyafrif gyfyngiadau a gwaharddiadau. Er enghraifft, dim ond am gyfnod cyfyngedig y byddant yn talu yn aml iawn. Cewch wybod mwy ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Yswiriant diogelu incwm

Bydd yswiriant diogelu incwm yn anelu i dalu allan incwm sy'n gyfwerth â'r hyn y byddwch wedi'i ennill ar ôl tynnu treth os na fyddwch yn gallu gweithio yn sgîl damwain, gwaeledd neu ddiweithdra. Bydd y swm hwn yn cynnwys unrhyw fudd-dal y Wladwriaeth gewch chi. Fel gydag Yswiriant Gwarchod Taliadau ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau Yswiriant Gwarchod Taliadau yn talu'n syth, a bydd gan y mwyafrif gyfyngiadau a gwaharddiadau.

Dewis eich yswiriant

Pan fyddwch yn prynu yswiriant gallwch siopa o gwmpas ar eich pen eich hun a phrynu'n uniongyrchol ar ôl cymharu cynnyrch, neu gallwch ddefnyddio brocer yswiriant. Gallwch gymharu Yswiriant Gwarchod Taliadau ar dablau Cymharol yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Rhaid i unrhyw un sy'n gwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau neu yswiriant diogelu incwm yn y DU fod wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Golyga hyn bod rhaid iddynt ddilyn rheolau a safonau penodol pan fyddant yn delio â chi, a rhoi gwybodaeth i chi yn egluro'r gwasanaeth a'r cynnyrch y maent yn eu cynnig.

Prynu gyda chyngor neu heb gyngor

Bydd broceriaid sydd wedi'u hawdurdodi i gynnig cyngor am yswiriant yn ystyried eich anghenion personol ac ni fyddant yn argymell cynnyrch onid yw'n addas yn eu tyb hwy. Caiff eraill roi gwybodaeth ond ni chânt roi cyngor; yn yr achos hwn chi sy'n penderfynu ar bolisi ar ôl cymharu'r dewisiadau sydd ar gael. Os prynwch heb gyngor, nid oes gennych gymaint o warchodaeth os daw'n amlwg nad oedd y polisi'n addas.

Cewch ragor o wybodaeth am fanteision ac anfanteision prynu gyda chyngor neu heb gyngor yn yr erthygl 'Cael cyngor am gynhyrchion yswiriant' a welir isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU