Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch brynu yswiriant yn seiliedig ar wybodaeth yn unig neu ar ôl cael cyngor. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o werthiannau yswiriant yn y DU. Dim ond polisi yswiriant sy'n addas ar eich cyfer y caiff cynghorwyr yswiriant ei argymell i chi.
Pan fyddwch yn cael cyngor am yswiriant, bydd y brocer neu'r ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell polisi a fydd yn eu diwallu. Mae hyn yn aml yn golygu cyfarfod wyneb-yn-wyneb, ond gallwch gael cyngor mewn ffyrdd eraill, er enghraifft dros y ffôn, e-bost neu drwy'r post. Yn unol â rheolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, os daw'n amlwg na chawsoch gyngor addas bydd gennych yr hawl i gwyno ac, mewn rhai amgylchiadau, i hawlio iawndal.
Rhaid i gwmnïau yn y DU sy'n gwerthu yswiriant heb gyngor gadw at reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth i chi am eu gwasanaethau a'u cynnyrch (gweler yr adran nesaf). Ond os prynwch yswiriant heb gael cyngor chi sy'n penderfynu a ydy'r polisi'n addas ar eich cyfer ai peidio. Os aiff pethau o chwith efallai y bydd yn anoddach i chi gwyno.
Rhaid i gwmnïau sydd wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ddilyn rheolau a safonau penodol, gan gynnwys rhoi gwybodaeth benodol i chi sydd angen i brynu yswiriant.
Pan fyddwch yn cysylltu â darparwr yswiriant, byddant yn rhoi manylion y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig i chi. Gall fod mewn ‘dogfen ynghylch ein gwasanaeth’, ond nid yw hyn yn ofynnol.
Byddant yn dweud wrthych:
Defnyddiwch y ddogfen hon, neu’r wybodaeth hon, i siopa o gwmpas i gael y gwasanaeth y dymunwch am bris sy’n eich bodloni chi.
Unwaith y byddwch wedi trafod beth fydd ei angen arnoch ac wedi ateb y cwestiynau i gyd amdanoch chi’ch hun a beth yr ydych am ei yswirio, bydd y canolwr, cwmni yswiriant neu’r cwmni sy’n gwerthu’r yswiriant i chi yn rhoi gwybodaeth allweddol am y polisi i chi. Bydd hon yn nodi’r ffeithiau hanfodol.
Ar gyfer yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi rhaid iddynt roi dogfen nodweddion allweddol fanylach i chi yn cynnwys darlun o sut y bydd eich buddsoddiad yn perfformio dros gyfnod o amser.
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio'u gwasanaeth Gwirio ein Cofrestr ar-lein.
Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr yswiriant Ewropeaidd yn cael eu rheoleiddio yn eu gwledydd eu hunain, ond bydd angen i chi gadarnhau hyn - a gweld beth yw eich hawliau pe baech yn sylweddoli bod y cynnyrch yn anaddas. Mae'n bosib nad ydy cwmnïau sy'n gweithredu y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewrop (neu weithiau o fewn yr ardal honno, ond y tu allan i'r DU) sy'n defnyddio canolfan alw dramor, wedi'u rheoleiddio o gwbl.