Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae yswiriant cyffredinol yn cynnwys y rhan fwyaf o yswiriannau ac eithrio yswiriant bywyd. Gallwch chwilio i weld pa yswiriant cyffredinol sydd ar gael a'i brynu'n uniongyrchol, neu gael cyngor yn ei gylch. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o werthiannau yswiriant cyffredinol ac yswiriant gwarchodaeth pur. Golyga hyn bod cwmnïau yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio â chi.
Dim ond ar ôl digwyddiad sydd wedi'i yswirio y bydd yswiriant cyffredinol yn talu allan. Mae'n cynnwys:
Gyda chynifer o gynigion yswiriant ar y farchnad, mae'n werth gweld beth sydd ar gael. Mae pwyntiau allweddol i'w cymharu yn cynnwys:
Pan fyddwch yn cysylltu â darparwr yswiriant, byddant yn rhoi manylion y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig i chi. Gellir gweld hyn fel arfer yn y ‘ddogfen ynghylch ein gwasanaeth’.
Unwaith y byddwch wedi trafod beth fydd ei angen arnoch ac wedi ateb y cwestiynau i gyd amdanoch chi’ch hun a beth yr ydych am ei yswirio, bydd y canolwr, cwmni yswiriant neu’r cwmni sy’n gwerthu’r yswiriant i chi yn rhoi gwybodaeth allweddol am y polisi i chi. Bydd hon yn nodi’r ffeithiau hanfodol.
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth ‘Gwirio ein Cofrestr’ ar-lein yr Awdurdod.
Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth ar ôl gweld beth sydd ar gael. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a phrynu heb gyngor a'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.