Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gweld athletwyr gorau'r byd yn cystadlu yn Llundain 2012 yn argoeli i fod yn brofiad ysbrydolgar – yn enwedig i'r rhai hynny a fydd wedi chwarae rhan wrth wneud iddo ddigwydd. Mae gwirfoddoli yng Ngemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn gyfle unwaith-mewn-oes i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y byd – ac yn gyfle gwych i feithrin sgiliau newydd.
Bydd hyd at 70,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r DU, ac o gwmpas y byd, yn chwarae rhan hollbwysig i sicrhau bod Gemau Olympaidd a Gemau Paraolympaidd Llundain yn llwyddiant.
A gallech chi fod yn un ohonynt. Mae chwarae rhan mewn digwyddiad byd-eang mawreddog yn rhywbeth a gofiwch am byth. Byddwch yn rhannu digwyddiad unigryw, ac yn ennill sgiliau newydd yn y broses.
Bydd y rhaglen recriwtio ffurfiol ar gyfer gwirfoddolwyr yn cychwyn yn 2010, ond gallwch gofrestru eich diddordeb heddiw ar wefan Llundain 2012. Os cofrestrwch, cewch ddiweddariadau achlysurol am y Gemau, ac am unrhyw gyhoeddiadau am wirfoddoli.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod faint o amser fydd gennych i'w sbario erbyn 2012 - nid ydych chi'n ymrwymo eich hun i unrhyw beth eto.
Bydd trefnwyr Llundain 2012 yn chwilio am bobl i helpu gyda'r canlynol:
Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant cyn y digwyddiad.
Gall gwirfoddoli roi boddhad mawr i chi, yn ogystal â bod yn ffordd wych o gyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd.
Bydd hefyd yn helpu eich cyfle o gael eich dewis yn wirfoddolwr ar gyfer Llundain 2012. Ymysg pethau eraill, bydd y trefnwyr yn edrych am sgiliau a phrofiad o wirfoddoli. Felly os ydy gwirfoddoli'n rhywbeth newydd i chi, byddai'n syniad da i chi gael rhywfaint o brofiad cyn 2010.
SkillsActive yw'r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer hamdden actif a dysgu. Gall eu hymgynghorwyr ddweud mwy wrthych am yrfaoedd actif a'r hyn y gallwch ei gael o wirfoddoli.
Mae nifer o fudiadau'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli:
Ewch i wefan Llundain 2012 i gael mwy o wybodaeth am Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012.