Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth am sut y gallwch wneud i'ch cartref ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon deuocsid. Mae'n rhaid i bob cartref a gaiff ei brynu, ei werthu neu ei rentu gael Tystysgrif Perfformiad Ynni. Yma, cewch wybod sut mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn edrych a beth maent yn ei gynnwys.
Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn cynnwys:
Mae gan Dystysgrifau Perfformiad Ynni gyfraddau sy'n cymharu effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon deuocsid presennol â'r ffigurau posibl y gallai eich cartref eu cyflawni. Cyfrifir ffigurau posibl drwy amcangyfrif beth fyddai'r ffigurau effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon deuocsid pe rhoddwyd mesurau arbed ynni ar waith.
Mae'r gyfradd yn mesur effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon eich cartref gan ddefnyddio graddfa o 'A' i 'G'. Graddfa 'A' yw'r fwyaf effeithlon, a graddfa 'G' yw'r lleiaf effeithlon. Y raddfa effeithlonrwydd gyfartalog ar hyn o bryd yw 'D'. Caiff pob cartref ei fesur gan ddefnyddio'r un cyfrifiadau, fel y gallwch gymharu effeithlonrwydd ynni gwahanol adeiladau.
Daw tua 27 y cant o allyriadau carbon deuocsid o gartrefi domestig. Mae carbon deuocsid yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddarllen 'Newid yn yr hinsawdd: canllaw cyflym'.
Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni hefyd yn darparu adroddiad argymhellion manwl yn dangos beth allech ei wneud i helpu i leihau faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio a'ch allyriadau carbon deuocsid. Mae’r adroddiad yn rhestru:
Nid oes yn rhaid i chi weithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad argymhellion. Fodd bynnag, os penderfynwch wneud hynny, gallai wneud i'ch eiddo edrych yn fwy deniadol ar gyfer ei werthu neu ei rentu, drwy sicrhau ei fod yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Am fwy o wybodaeth am arbed ynni ac i weld a ydych yn gymwys ar gyfer grantiau effeithlonrwydd ynni er mwyn gwneud i'ch cartref ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, dilynwch y ddolen isod.
Mae'r dystysgrif hefyd yn cynnwys:
Caiff gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni ac allyriadau carbon ei chrynhoi mewn dau siart sy'n dangos cyfraddau ynni ac allyriadau carbon deuocsid. Mae'r siartiau'n edrych yn debyg i'r rheini a ddarperir gydag offer trydanol, megis oergelloedd a pheiriannau golchi. Defnyddiwch y ddolen isod i gael gweld enghraifft o Dystysgrif Perfformiad Ynni.
Dylech gael Tystysgrif Perfformiad Ynni pan ydych yn ystyried prynu neu rentu tŷ. Bydd angen i chi ddarparu un os ydych yn gwerthu neu'n rhentu eich cartref. Darllenwch 'Cael Tystysgrif Perfformiad Ynni' i gael mwy o wybodaeth.
Mae'r Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ofynnol gan y gyfraith pan fydd adeilad yn cael ei adeiladu, yn cael ei rentu neu ei werthu. Bydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni ar adeilad os bydd ganddo do a waliau ac os bydd yn defnyddio ynni er mwyn 'rheoli hinsawdd dan do'. Golyga hyn bod ganddo system wresogi, aer dymheru neu awyriad mecanyddol. Er enghraifft, ni fyddai angen Tystysgrif Perfformiad Ynni gyda sied os nad oes system wresogi ynddi.
Gall yr adeilad fod naill ai'n adeilad cyfan neu'n rhan o adeilad sydd wedi'i gynllunio neu wedi'i addasu i gael ei ddefnyddio ar wahân. Os yw adeilad wedi'i rannu i unedau ar wahân, a bod gan bob uned system wresogi ei hun, bydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer pob uned.
I gael rhagor o fanylion ynghylch pryd a pha fath o adeiladau y mae'n rhaid iddynt gael Tystysgrif Perfformiad Ynni, darllenwch 'Gwella effeithlonrwydd ynni ein hadeiladau'.
Nid oes angen cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gyda'r adeiladau canlynol pan gânt eu hadeiladu, eu rhentu neu eu gwerthu:
Mae'n rhaid i berchnogion adeiladau masnachol hefyd ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fyddant yn gwerthu neu'n gosod adeiladau masnachol. I gael mwy o wybodaeth am hyn, dilynwch y ddolen isod i wefan businesslink.gov.uk.