Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn defnyddio adeilad cyhoeddus mawr neu'n gweithio mewn un, gallwch gael gwybodaeth am y modd y mae'n defnyddio ynni ac am ei allyriadau carbon drwy edrych ar ei Dystysgrif Ynni (Display Energy Certificate neu DEC). Yma, cewch wybod beth yw Tystysgrifau Ynni a beth maent yn ei gynnwys.
Mae Tystysgrifau Ynni yn ffordd o ddangos pa mor effeithlon y mae adeilad yn defnyddio ynni. Rhaid i'r Dystysgrif Ynni gael ei harddangos yn glir mewn adeiladau mawr a ddefnyddir gan sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus y mae arwynebedd eu llawr yn fwy na 1,000 metr sgwâr. Rhaid i'r Dystysgrif gael ei diweddaru bob blwyddyn.
Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys llywodraeth leol a llywodraeth ganol, ysgolion, llysoedd a charchardai. Mae sefydliadau'n cynnwys cyrff sy'n darparu gwasanaethau y mae'r trethdalwr yn talu amdanynt.
Mae Tystysgrif Ynni'n cynnwys tri phrif siart - y radd y mae'r adeilad wedi'i hennill o ran pa mor effeithlon y mae'n defnyddio ynni, yr allyriadau carbon deuocsid y mae'n eu cynhyrchu, a'r sgôr y mae wedi'i chael am effeithlonrwydd ynni dros y tair blynedd ddiwethaf. Dilynwch y ddolen isod i weld enghraifft o Dystysgrif Ynni oddi ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Mesurir cyfradd effeithlonrwydd ynni adeilad ar raddfa o 'A' i 'G'. Gradd 'A' yw'r fwyaf effeithlon, a gradd 'G' yw'r lleiaf effeithlon.
Mae'r dystysgrif hefyd yn dangos y gyfradd effeithlonrwydd ynni ar gyfer y flwyddyn bresennol ac ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. Gallwch ddefnyddio'r cyfraddau hyn i weld a yw'r effeithlonrwydd ynni wedi gwella ai peidio.
Bydd adroddiad cynghori'n cael ei greu ochr yn ochr â'r Dystysgrif Ynni bob amser, a rhaid iddo gael ei gadw gan bwy bynnag sy'n gyfrifol am ofalu am yr adeilad. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion ar yr hyn y gall y sefydliad ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni'r adeilad. Mae'n ddilys am saith mlynedd.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys y ffigurau defnyddio ynni gwirioneddol yn ôl darllediadau mesuryddion yr adeilad, ac allyriadau carbon deuocsid wedi'u mesur mewn tunelli y flwyddyn.
Os ydych chi'n meddwl y dylai Tystysgrif Ynni fod yn cael ei harddangos, cysylltwch â'r unigolyn sy'n gyfrifol am ofalu am yr adeilad. Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch gysylltu â'r swyddfa Safonau Masnach leol.
Gellir rhoi dirwy o £500 i sefydliadau am beidio ag arddangos Tystysgrif Ynni mewn man amlwg lle gall y cyhoedd ei weld yn glir. Gellir rhoi dirwyo o hyd at £1,000 am beidio â chael adroddiad cynghori dilys.