Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma cewch wybod lle mae cael Tystysgrif Perfformiad Ynni, pryd y dylech gael un a phryd y dylech ddarparu un. Hefyd, cewch wybod am aseswyr ynni, sy'n cyflwyno Tystysgrifau Perfformiad Ynni, a beth i'w wneud os nad ydych yn hapus gyda'u gwaith.
Yn ôl y gyfraith, rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni pan fydd adeilad yn cael ei adeiladu, ei werthu neu ei rentu. Os ydych yn landlord neu'n berchennog ar dŷ a bod angen i chi ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni, bydd angen i chi gysylltu ag asesydd ynni domestig sydd wedi'i achredu. Byddant yn cynnal yr asesiad ac yn cyflwyno'r dystysgrif.
Mae'r cynllun achredu'n gwneud yn siŵr bod aseswyr ynni domestig yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol ac yn gallu cynnal yr arolwg i safon y cytunir arni. Gall aseswyr ynni domestig fod yn gyflogedig gan gwmni (fel gwerthwr tai neu gwmni ynni) neu'n hunangyflogedig. Dylech bob amser wneud yn siŵr bod eich asesydd ynni domestig yn perthyn i gynllun achredu. Gallwch weld rhestr lawn o gynlluniau achredu drwy ddilyn y ddolen isod.
Gallwch ddefnyddio gwefan y 'Gofrestr Adroddiadau ar Gyflwr Cartrefi a Thystysgrifau Perfformiad Ynni' i chwilio am asesydd ynni domestig sydd wedi'i achredu. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Landmark, ar ran y llywodraeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i aseswyr ynni domestig sydd wedi'u hachredu drwy chwilio ar-lein neu edrych yn y llyfr ffôn.
Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn ddilys am ddeg mlynedd, ac eithrio os ydynt yn rhan o Becyn Gwybodaeth am y Cartref. Os yw'n rhan o Becyn Gwybodaeth am y Cartref, ni chaiff y Dystysgrif Perfformiad Ynni fod yn fwy na thair blwydd oed pan fydd yr adeilad yn cael ei roi ar y farchnad am y tro cyntaf. Gweler 'Pecynnau Gwybodaeth am y Cartref' am fwy o wybodaeth.
Bydd pris Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn cael ei bennu gan y sefydliadau achrededig sy'n eu cyflwyno. Pan fyddwch yn comisiynu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref, dylai cost y Dystysgrif Perfformiad Ynni fod yn rhan o'r gost gyffredinol. Os byddwch yn gwneud cais am Dystysgrif Perfformiad Ynni ar ei phen ei hun, dylai gostio tua £100 (ar gyfer tŷ cyffredin ei faint).
Mae cael Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer cartref canolig ei faint yn debygol o gymryd yr un faint o amser ag adroddiad prisio tai. Bydd yr union amser yn amrywio o eiddo i eiddo.
Os nad ydych yn hapus, dylech drafod eich cwyn gyda'r asesydd ynni domestig a gynhaliodd eich asesiad. Mae'n ofynnol bod gan bob asesydd ynni domestig drefn gwyno, felly fe ddylent allu darparu copi o'u trefn gwyno i chi. Oni chaiff y gŵyn ei datrys, gallwch fynd â hi at eu cynllun achredu.
Yn ôl y gyfraith, dylech gael Tystysgrif Perfformiad Ynni yn yr achosion canlynol:
Mae angen i bawb sy'n gwerthu tŷ sicrhau eu bod yn darparu Pecyn Gwybodaeth am y Cartref, a hwnnw'n cynnwys Tystysgrif Perfformiad Ynni, am ddim i brynwyr posib.
Dylai'r rheini sy'n prynu eiddo sydd newydd ei adeiladu gael Tystysgrif Perfformiad Ynni am ddim.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu eiddo, rhaid i'r landlord sicrhau bod Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gael i chi am ddim. Fodd bynnag, ni fydd angen Tystysgrif Perfformiad Ynni arnoch os ydych yn ystyried rhentu ystafell gan rannu cyfleusterau yn hytrach na rhentu'r eiddo i gyd.
Hyd yn oed os nad ydych yn dod dan un o'r categorïau uchod, mae'n dal yn bosib i chi wneud cais am Dystysgrif Perfformiad Ynni gan asesydd ynni a chael Tystysgrif. Efallai eich bod am wneud hyn er mwyn cael gwybod pa mor effeithlon yw'ch cartref o ran defnyddio ynni, a bod arnoch eisiau gwneud y gwelliannau a awgrymir yn yr adroddiad argymhellion. I gael gwybod mwy am gynnwys y Dystysgrif Perfformiad Ynni, dilynwch y ddolen isod.
Os nad ydych yn cael Tystysgrif Perfformiad Ynni a chithau â hawl iddi, dylech gysylltu ag adran safonau masnach eich cyngor lleol. Mae gan swyddogion safonau masnach y grym i roi rhybudd cosb benodedig o £200 ar gyfer eiddo domestig pan na ddarperir Tystysgrif Perfformiad Ynni.
Os ydych yn prynu tŷ sydd newydd gael ei adeiladu ac nad oes Tystysgrif Perfformiad Ynni wedi'i darparu, dylech gysylltu ag adran rheoli adeiladu eich cyngor lleol.
Mae Artemis Stylianou, 27, o Lundain, yn gweithio fel asesydd ynni domestig ers 2007. Bydd Artemis yn cynnal asesiadau ar dai sydd ar werth neu ar rent ac yn casglu manylion y dimensiynau, yr adeiladwaith, y gwres a'r dŵr poeth. Gan ddefnyddio meddalwedd achrededig, mae hi wedyn yn cyflwyno Tystysgrif Perfformiad Ynni, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni'r eiddo, i'r perchennog.
Dywed Artemis: "Mae'r amgylchedd a'r effaith y mae ein cartrefi a'n hadeiladau'n ei chael ar allyriadau carbon wedi bod o ddiddordeb i mi erioed, ac yn fy marn i gall Tystysgrifau Perfformiad Ynni wneud cyfraniad gwirioneddol o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
"Ers i mi fod yn gweithio fel asesydd, rwyf wedi sylwi bod yr ymwybyddiaeth o Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gynnydd. Wrth i filiau tanwydd gynyddu, mae hyd yn oed yn bwysicach i bobl ddeall sut y gall gwneud gwelliannau i effeithlonrwydd ynni eu cartref arbed arian iddynt.
"Rwyf hefyd yn credu bod pobl yn dangos mwy a mwy o ddiddordeb ac yn fwy agored i syniadau o ran sut y gallant wella ôl troed carbon eu cartrefi."
Pan fydd Artemis yn cael sgwrs gyda phobl am raddau eu Tystysgrif Perfformiad Ynni a'r argymhellion a awgrymir, mae'n rhoi'r argymhellion yng nghyd-destun eu bywydau dyddiol. Canolbwyntir ar yr arbedion y gellir eu gwneud ar eu biliau misol: "Rwy'n eu helpu i ddeall sut mae gwneud newidiadau bach i'w cartrefi yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr - i'w waled ac i'r amgylchedd."