Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Digwyddiadau lleol y Ganolfan Byd Gwaith

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu ffeiriau swyddi a digwyddiadau cynghori lle gallwch sgwrsio â chyflogwyr am y swyddi sydd ar gael ganddynt. Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddychwelyd i waith. Yma cewch wybod am y digwyddiadau a gynhelir yn eich ardal chi.

Dod o hyd i ddigwyddiad lleol y Ganolfan Byd Gwaith

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i lawrlwytho dyddiadur o ddigwyddiadau lleol y Ganolfan Byd Gwaith.

Beth yw digwyddiadau lleol y Ganolfan Byd Gwaith

Caiff digwyddiadau lleol y Ganolfan Byd Gwaith eu cynnal naill ai gan y Ganolfan Byd Gwaith neu mewn partneriaeth â chyrff eraill. Caiff y digwyddiadau eu cynnal yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu mewn lleoliadau eraill, megis llyfrgelloedd neu ganolfannau cymunedol.

Gall digwyddiadau lleol eich helpu os ydych yn:

  • chwilio am swydd
  • chwilio am gyngor ar ddychwelyd i waith neu hyfforddiant
  • ystyried newid gyrfa
  • chwilio am gyngor ar fudd-daliadau

Gelwir rhai digwyddiadau lleol yn ffeiriau swyddi. Mewn ffair swyddi gallwch:

  • sgwrsio â chyflogwyr am y cyfleoedd sydd ar gael ganddynt
  • cael ffurflenni cais

Gall unrhyw un fynd i ddigwyddiad lleol – does dim rhaid i chi fod yn ddi-waith.

Mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi darparu cymaint o wybodaeth â phosib am bob digwyddiad lleol. Mae’r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a'r manylion terfynol, efallai yr hoffech siarad â’r unigolyn cyswllt a nodir ar gyfer pob digwyddiad lleol.

Ffyrdd eraill o chwilio am swydd

Mae digwyddiadau lleol yn ffordd dda o chwilio am swydd, ond gallwch chwilio am swydd mewn nifer o ffyrdd eraill. Gallwch gael cyngor ar y gwahanol ffyrdd o chwilio am swydd drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Gallwch chwilio am swydd ar-lein hefyd.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU