Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn cael Grant Dawns a Drama, bydd yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd ar gyfer mynychu un o nifer fechan o ysgolion arbenigol, preifat. Ond bydd yn dal yn rhaid i chi wneud cyfraniad personol.
Os llwyddwch i gael Grant Dawns a Drama, bydd yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud cyfraniad personol hefyd.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/2010, mae'r cyfraniad personol hwn yn £1,275.
Bydd y Grant Dawns a Drama yn cael ei roi ni waeth beth yw incwm eich cartref. Ond, ystyrir eich amgylchiadau wrth benderfynu a gewch chi gymorth ychwanegol ai peidio.
Os ydych chi'n dod o Gymru, Lloegr neu'r Alban, efallai y bydd modd i chi gael cymorth ychwanegol gyda chostau byw a gofal plant - bydd hyn yn ychwanegol i'r Grant Dawns a Drama.
Bydd y swm ychwanegol a gewch yn dibynnu ar incwm blynyddol eich cartref. Os yw incwm eich cartref dros £33,000, chewch chi ddim cymorth ychwanegol.
Mae’r tabl isod yn dangos faint o gymorth ychwanegol y gallwch ei gael tuag at eich ffioedd a'ch costau byw ar gyfer 2009/10.
Incwm y cartref |
Myfyrwyr yn byw gartref |
Myfyrwyr sy'n byw mewn llety y tu allan i Lundain |
Myfyrwyr sy'n byw mewn llety yn Llundain |
---|---|---|---|
Llai na £21,000 |
£2,292 |
£4,823 |
£5,460 |
£21,001 - £23,000 |
£2,010 |
£4,026 |
£4,559 |
£23,001 - £25,000 |
£1,710 |
£3,203 |
£3,632 |
£25,001 - £27,000 |
£1,435 |
£2,411 |
£2,724 |
£27,001 - £30,000 |
£1,145 |
£1,602 |
£1,810 |
£30,001 - £33,000 |
£0 |
£761 |
£910 |
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n hanu o wlad y tu allan i Gymru, Lloegr a'r Alban ond o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE), ni chewch hawlio cymorth ychwanegol ar gyfer eich costau byw, dim ond ar gyfer eich ffioedd dysgu. Mae’r tabl isod yn dangos faint o gymorth y gallwch ei gael.
Incwm y cartref |
Myfyrwyr nad ydynt yn hanu o Gymru, Lloegr a'r Alban: cymorth gyda ffioedd dysgu yn unig |
---|---|
Llai na £21,000 |
£1,275 |
£21,001 - £23,000 |
£1,071 |
£23,001 - £25,000 |
£842 |
£25,001 - £27,000 |
£638 |
£27,001 - £30,000 |
£421 |
£30,001 - £33,000 |
£0 |
I gael help gyda ffioedd a chynhaliaeth, dylai myfyrwyr o Ogledd Iwerddon gysylltu ag adran cyllid myfyrwyr y Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd Gorllewinol. Dilynwch y ddolen isod i gael y manylion cyswllt llawn, neu anfonwch e-bost i student.awards@welbni.org.
Dylai myfyrwyr o wledydd yr UE wneud cais i'w gwlad frodorol am gymorth gyda chostau byw.
Os ydych chi'n hanu o wlad y tu allan i'r UE, ni fyddwch chi'n gymwys i gael Grant Dawns a Drama. Os byddwch chi'n gwneud cais i ysgol ddawns neu ysgol ddrama breifat, bydd yn rhaid i chi dalu'r ffioedd dysgu i gyd eich hun.
I wneud cais am grant, cysylltwch ag un o'r 22 ysgol hyfforddi breifat ym maes dawns a drama.
Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn llyfryn hefyd. Gallwch lwytho un oddi ar y we ar ffurf PDF, neu gael copi papur:
• drwy ffonio 0845 60 222 60
• dewis opsiwn 0
• dyfynnu'r cyfeirnod LSC-DD1
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun, ffoniwch linell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.