Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Grantiau Dawns a Drama: sut i wneud cais

Rhoddir Grantiau Dawns a Drama i'r myfyrwyr sy'n dangos y ddawn a'r potensial mwyaf yn eu clyweliad. Mae'r cyrsiau yn yr ysgolion sy'n cynnig y Grantiau yn boblogaidd dros ben, felly mae'n hanfodol eich bod yn anfon eich cais yn gyflym.

Y clyweliad

"Hyd yn oed pan es i adref roeddwn i'n meddwl am y cwrs. Roedd o'n werth yr ymdrech."

Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar gwrs, cysylltwch â'r ysgol i ofyn am glyweliad ac i ddweud wrthynt eich bod eisiau gwneud cais am grant. Mae'n bosib y bydd yr ysgol yn anfon ffurflen gais atoch i'w llenwi a'i dychwelyd atynt.

Gan fod galw mawr am y math yma o hyfforddiant, mae'n well cysylltu â'r ysgol mewn da bryd.

Rhoddir Grantiau Dawns a Drama i fyfyrwyr sy'n dangos y ddawn fwyaf yn y clyweliad, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau ariannol.

Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen

Ar ôl i chi dderbyn Grant Dawns a Drama, ni chewch wneud cais arall ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn - felly mae'n bwysig sicrhau eich bod wedi dewis yr ysgol a'r cwrs iawn cyn derbyn.

Os ydych chi wedi cael Grant o'r blaen a'ch bod yn gwneud cais eto, rhaid i chi roi gwybod i'r ysgol yr ydych yn gwneud cais i fynd iddi a dweud wrthi pam. Dim ond mewn achosion eithriadol y rhoddir Grant am yr eildro, felly mae'n annhebygol y bydd eich cais yn llwyddiannus, oni bai y bu'n rhaid i chi roi'r gorau i'ch hyfforddiant blaenorol am reswm nad oedd yn fai i chi - er enghraifft, oherwydd gwaeledd neu anaf.

Ni chewch wneud cais am ail Grant os ydych wedi gorffen y cwrs cyntaf i chi ei gwblhau gyda chymorth y Grant, neu os byddai'r Grant cyntaf a'r ail gyda'i gilydd yn para mwy na phedair blynedd.

Mae'n dal yn bosib i chi wneud cais am Grant Dawns a Drama os ydych wedi cael math arall o gymorth ariannol yn barod er mwyn dilyn cwrs addysg uwch neu addysg bellach.

Gwneud cais am gymorth gyda ffioedd a chostau byw

Pan fyddwch yn gwneud cais i'r ysgol am Grant Dawns a Drama, dylent hefyd anfon ffurflen gais atoch i helpu gyda chostau byw.

Bydd yn rhaid i chi wneud cais am gymorth ychwanegol bob blwyddyn gan fod y cyfraddau'n newid. Os byddwch yn cael ychydig o arian ychwanegol, fe gaiff ei rannu'n dri thaliad. Byddwch yn cael y taliadau hynny ar ddechrau pob tymor.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Os bydd eich cais am Grant yn aflwyddiannus, efallai y byddwch eisiau apelio. Rhaid i chi anfon llythyr at yr ysgol y gwnaethoch gais iddi gan ofyn iddi esbonio'r penderfyniad.

Mae'n bosib y cewch barhau i astudio yn yr ysgol neu'r coleg o'ch dewis hyd yn oed os na chewch y Grant Dawns a Drama, ond bydd yn rhaid i chi dalu'r ffioedd dysgu eich hun. Fodd bynnag, efallai y bydd yn bosib y cewch Fenthyciad Datblygu Gyrfa os ydych chi dros 18 oed.

Caiff ceisiadau am gymorth gyda chostau byw eu hasesu gan y gwasanaeth Cefnogaeth i Ddysgwyr. Os ydych yn cael Grant ond yn meddwl eich bod yn cael llai o help gyda chostau byw na'r hyn y mae gennych hawl iddo, cysylltwch â'r llinell gymorth i gael gwybod sut i apelio.

Ddim yn fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais?

Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, cysylltwch â llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr. Caiff ei staffio gan gynghorwyr a fydd yn fwy na bodlon eich helpu i ddatrys eich problem.

Os ydych yn anabl

Os ydych chi'n anabl, efallai bod gennych chi hawl i gymorth ariannol ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r wybodaeth hon ar gael hefyd mewn llyfryn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y cynllun, cysylltwch â'r llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr.

Additional links

Sêr Dawns a Drama

The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City - maent i gyd yn gysylltiedig â'r Grantiau Dawns a Drama...

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU