Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dim ond gan nifer fach o ysgolion preifat, arbenigol y rhoddir y Grantiau Dawns a Drama. Cyn i chi wneud cais, dylech sicrhau eich bod yn gymwys - ar sail eich oedran, eich cenedl neu'ch statws preswylio, a'r cwrs. Mae hefyd yn werth cofio y bydd Dyfarniad yn effeithio ar unrhyw Lwfans Cynhaliaeth Addysg rydych yn ei gael.
Mae'r Grantiau Dawns a Drama ar gael mewn 22 ysgol dawns a drama breifat yn Lloegr.
Bydd a ydych yn gymwys ar gyfer grant ai peidio yn dibynnu ar eich oed, eich cenedl neu'ch statws preswylio, a'r cwrs rydych yn ei wneud.
Eich oedran
I wneud cais am gwrs dawns, rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn.
I wneud cais am gyrsiau actio neu reoli llwyfan, rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn.
Os ydych chi dan 16 oed, efallai y gallwch wneud cais am y cynllun Cerddoriaeth a Dawns yn lle. Cynllun ar wahân yw hwn a all helpu rhieni i dalu'r ffioedd a chostau'r llety mewn wyth ysgol annibynnol arbenigol. Mae bob un o'r ysgolion hyn yn ganolfan rhagoriaeth yn eu meysydd eu hunain.
Gofynion cenedligrwydd a phreswylio
Gallech fod yn gymwys i gael dyfarniad os yw'r ddau ganlynol yn berthnasol i chi:
Gallech hefyd fod yn gymwys os oes gennych statws ffoadur, neu os oes gennych hawl amhenodol i aros yn y DU a'ch bod wedi bod yn preswylio yn y DU ers y rhoddwyd y statws hwn i chi.
Os nad ydych wedi bod yn y Deyrnas Unedig neu'r UE oherwydd bod eich rhieni wedi'u cyflogi dros dro yn rhywle arall yn ystod y tair blynedd diwethaf, ystyrir eich bod wedi bod yn breswylydd yma drwy gydol y cyfnod.
Eich cwrs
Dim ond os byddwch yn mynd am gymhwyster Coleg y Drindod Llundain gydag un o'r 22 darparwr achrededig y byddwch chi'n gymwys i gael Grant Dawns a Drama.
Ni cheir defnyddio'r grantiau ar gyfer graddau prifysgol neu goleg cyffredin na chyrsiau mewn dawns neu ddrama os nad ydyn nhw'n cael eu rhestru.
Dilynwch y dolenni isod i gael manylion y cyrsiau a'r ysgolion.
I gael gwybod faint o arian allech chi ei gael, dilynwch y ddolen isod.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Os ydych chi'n cael Grant Dawns a Drama, ni fydd gennych hawl i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi hefyd yn astudio ar gyfer Safon Uwch.
Mae'r cyrsiau y gellir eu gwneud gyda'r Grantiau Dawns a Drama ar Lefel 5 a Lefel 6 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Er mwyn bod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg, rhaid i'ch cwrs fod ar Lefel 3 neu'n is.
I wneud cais am grant, bydd angen i chi gysylltu ag un o'r 22 ysgol hyfforddi breifat ym maes dawns a drama.
Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn llyfryn. Gallwch lwytho copi ar ffurf PDF, neu gael copi papur drwy:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun, ffoniwch linell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.