Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Grantiau Dawns a Drama: gwnewch enw i chi'ch hun!

Gall astudio ar gyfer gyrfa ym myd dawns neu ddrama fod yn ddrud. Ond os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r doniau a'r agwedd iawn i lwyddo, efallai y cewch Grant Dawns a Drama i'ch helpu gyda’r costau o fynd i ysgolion arbenigol, preifat penodol.

Beth yw'r Grantiau Dawns a Drama?

"Fe helpodd y Grantiau Dawns a Drama fi i wireddu fy mreuddwyd"

Nathaniel Morrison

Mae'r Grantiau Dawns a Drama ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd sydd am weithio ym maes y celfyddydau perfformio.

Ar gael gan rai o ysgolion preifat blaenllaw Lloegr ym myd dawns a drama, byddan nhw'n helpu i dalu am le ar gwrs nodedig a mawr ei barch, beth bynnag y bo'ch amgylchiadau ariannol.

Bydd y grant yn talu am y rhan fwyaf o'ch ffioedd dysgu, ond bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad. Gallech hefyd gael arian ychwanegol i helpu gyda'ch costau byw.

Pa gyrsiau sy'n cael eu cynnwys dan y Grantiau Dawns a Drama?

Dim ond os byddwch yn mynd am gymhwyster Coleg y Drindod Llundain gydag un o'r 22 darparwr achrededig y gallwch gael Grant Dawns a Drama.

Bydd y darparwyr hyn yn cael eu harchwilio'n allanol i wneud yn siŵr bod eu cyrsiau yn cynnig hyfforddiant o safon uchel.

Mae'r cyrsiau, ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol, yn para rhwng blwyddyn a thair blynedd.

Bydd y cyrsiau, a ddatblygir gyda chyngor gan bobl broffesiynol yn y sector, yn rhoi pwyslais ar y sgiliau artistig, creadigol a thechnegol sydd eu hangen ar artistiaid er mwyn cael gyrfa amrywiol o safon uchel.

Mae’r cyrsiau yn cynnwys:

  • actio proffesiynol
  • dawnsio proffesiynol
  • theatr cerddoriaeth broffesiynol
  • sgiliau cynhyrchu proffesiynol
  • bale clasurol proffesiynol

Dilynwch y dolenni isod am fwy ynghylch y cyrsiau a’r ysgolion.

Cyrsiau nad ydynt yn cael eu cynnwys dan y Grantiau Dawns a Drama

Ni ellir cael Grantiau Dawns a Drama ar gyfer cyrsiau academaidd neu gyrsiau cyffredinol ym maes Dawns a Drama, fel Safon Uwch, cyrsiau gradd, cyrsiau dysgu, neu gyrsiau mewn colegau addysg bellach.

Dim ond os byddwch yn dilyn cwrs gydag un o'r 22 darparwr achrededig y byddwch yn gymwys i gael Grant Dawns a Drama.

I gael gwybodaeth gyffredinol am gyrsiau ac am gyfarwyddyd gyrfa, cysylltwch â Connexions Direct.

Y Camau Nesaf

Dilynwch y dolenni isod am bopeth y mae angen i chi ei wybod am Grantiau Dawns a Drama:

  • a ydych yn gymwys
  • faint o arian allech chi ei gael
  • sut i wneud cais

Additional links

Sêr Dawns a Drama

The Sound of Music, Stevie Wonder a Holby City - maent i gyd yn gysylltiedig â'r Grantiau Dawns a Drama...

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU