Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mynnwch gael y gorau o'r celfyddydau perfformio, er enghraifft, y theatr, opera a cherddoriaeth fyw. Mynnwch wybod am y mathau o gyfleusterau sydd ar gael i gwsmeriaid anabl.
Mae unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth yn uniongyrchol i'r cyhoedd - gan gynnwys theatrau a chanolfannau eraill ar gyfer y celfyddydau perfformio - yn cael eu hystyried yn ddarparwyr gwasanaeth. Mae ganddynt gyfrifoldebau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd i wneud 'addasiadau rhesymol' i'w hadeiladau, polisïau a gweithdrefnau fel bo pobl anabl yn gallu'u defnyddio.
Er enghraifft, derbyn cun cymorth neu gun cefnogi, sicrhau bob pobl anabl yn gallu mynd i'r awditoriwm neu ddarparu dolen sain ar gyfer person â nam ar y clyw.
Mae llawer o ganolfannau a chwmnïau perfformio'n rhedeg cynlluniau ar gyfer cwsmeriaid anabl. Os oes gennych ofalwr neu gydymaith, efallai y byddant yn cael tocyn rhatach neu am ddim. Mewn rhai mannau, bydd hyn wedi'i gyfyngu i rai perfformiadau.
Rhaid i'r rhan fwyaf o ganolfannau gyfyngu ar nifer y cyfleusterau unigol sydd ar gael. Er enghraifft, nifer y seddi ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn yr awditoriwm neu nifer y dolenni sain sydd ar gael. Holwch y ganolfan bob tro ac archebu'ch tocynnau o flaen llaw.
Mae llawer o fannau'n cynnal perfformiadau arbennig ar amser penodol - er enghraifft, drama'n cael ei throsi'n fyw i Iaith Arwyddion Prydain.
Yn ogystal â chysylltu'n uniongyrchol â chanolfan, gellir cael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau a pherfformiadau arbennig drwy ffyrdd eraill. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau'r DU wefannau sy'n cynnwys gwybodaeth benodol ar gyfer cwsmeriaid anabl.
Yn Llundain, mae’r Gymdeithas Theatrau Llundain yn darparu gwybodaeth ynghylch perfformiadau a gynorthwyir a mynediad i leoliadau ar ei gwefan Canllaw Theatrau Llundain.
Mae sawl mudiad ar gael hefyd, sy'n arbenigo mewn darparu mynediad ar gyfer pobl anabl i'r Celfyddydau.