Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio

Mae'r celfyddydau perfformio'n cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys dawns, meim, theatr a cherddoriaeth. Gellir cymryd rhan mewn sawl ffordd gan gynnwys gweithdai, dosbarthiadau ac ymuno â chwmni perfformio.

Celfyddydau perfformio ac anabledd

Ar draws y DU, ceir llu o fudiadau ac elusennau sy'n gweithio gyda phobl anabl. Mae rhai'n cael eu rhedeg gan bobl abl sy'n cynnwys perfformwyr ac artistiaid proffesiynol. Rhedir eraill gan bobl anabl ac, yn aml - cyfuniad o'r ddau.

Yn aml mae sefydliadau perfformio'n gweithio'n agos â'r byd addysg, gan ymweld ag ysgolion, cynnal clybiau ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau yn ogystal â theithio ar draws y DU.

Maent wedi ymroi i hyrwyddo agwedd gadarnhaol o anabledd a herio rhagdybiaethau. Yn fwy na dim, maent yn rhoi cyfle i bobl wireddu'u potensial personol.

Cymryd rhan

Mae'r rhan fwyaf o fudiadau'r celfyddydau perfformio'n cael eu cynnal yn lleol. Gallant drefnu perfformiadau, gweithdai a rhaglenni hyfforddiant rheolaidd ar gyfer pobl abl ac anabl ac o wahanol gefndiroedd. Efallai y bydd y cyfranogwyr yn rhan o greu, cynhyrchu a chyfarwyddo perfformiadau.

Mae rhai mudiadau'n arbenigo mewn rhoi cyfle i bobl gyda namau penodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU