Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae canolfannau perfformio'n amrywio'n fawr ar draws y DU. Bydd gan ganolfannau llai gyfrifoldebau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ond does dim disgwyl iddynt wneud yr un math o 'addasiadau rhesymol' ac i'r un lefel â'r canolfannau mwy.
Mae llawer o theatrau a chanolfannau eraill yn cynnig perfformiadau â phenawdau neu mewn iaith arwyddion (BSL).
Bydd y canolfannau'n gallu rhoi gwybod i chi trwy eu staff archebu, eu gwefannau, eu taflenni neu neges ffôn wedi'i recordio pryd y byddant yn cyflwyno perfformiadau â phenawdau neu mewn iaith arwyddion.
Mewn rhai canolfannau gall cwsmeriaid archebu trwy ffôn testun.
Mae gan y rhan fwyaf o leoliadau ddolenni sain - naill ai rhai is-goch neu anwythol neu'r ddau. Holwch wrth archebu a ydynt yn cynnig y cyfleuster hwn.
System sy'n eich helpu i glywed yn well yw dolen sain trwy leihau sun cefndir. Gellir eu cael gyda microffon hefyd er mwyn helpu unigolion gyda theclyn clywed i glywed sgyrsiau'n haws - yn enwedig mewn mannau swnllyd.
Er 1 Hydref 2004, dan y gyfraith, rhaid i ganolfannau adloniant a hamdden wneud yn siwr fod y system ddolen sain anwythol neu is-goch yn gweithio'n iawn a bod y staff yn gwybod sut i'w defnyddio.
Mae gan rai lleoliadau, yn enwedig neuaddau cyngerdd mwy, system chwyddo sain a/neu glustffonau i'w benthyg.
Os oes gennych gi cefnogi neu gi cymorth, cysylltwch â'r ganolfan o flaen llaw er mwyn iddynt roi'r seddau mwyaf addas i chi. Weithiau, ni chaniateir i gi cymorth fynd i mewn i'r neuadd ei hun ond dylai'r ci gael ei gadw mewn man addas yn ystod y perfformiad.