Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae canolfannau perfformio'n amrywio'n fawr ar draws y DU. Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan bob canolfan berfformio gyfrifoldeb i wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer pobl anabl, ond ni fyddai disgwyl i ganolfannau llai wneud yr un math o addasiadau â chanolfannau mwy, nac i'r un lefel.
Er 1 Hydref 2004, mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi'i gwneud yn ofynnol i ganolfannau adloniant wneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn sicrhau mynediad hwylus i'w hadeiladau. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid iddynt wneud addasiadau megis gosod seddi a thoiledau hwylus a rampiau. Efallai y bydd gan rai canolfannau fynedfeydd gwahanol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Efallai y bydd rhai hen leoliadau wedi'u cyfyngu o ran yr hyn y gallant ei wneud, yn enwedig os oes ganddynt statws adeilad rhestredig.
Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ganolfannau wneud addasiadau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Rhaid i'r rhan fwyaf o leoliadau gyfyngu ar nifer y cyfleusterau unigol y gallant eu cynnig, gan gynnwys nifer y mannau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn yr awditoriwm ei hun.
Weithiau, bydd yn ofynnol gan ganolfannau bod person nad yw'n anabl yn dod gyda defnyddwyr cadair olwyn. Gall hyn fod yn angenrheidiol, er enghraifft, os bydd angen cymorth arnoch i symud o'ch cadair olwyn i'r sedd yn y ganolfan.
Mae gan rai lleoliadau gownteri isel yn y swyddfa docynnau. Mae bob amser yn syniad da cysylltu â'r ganolfan ymlaen llaw i holi am eu cyfleusterau.