Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae canolfannau perfformio'n amrywio'n fawr ar draws y DU. Mae gan ganolfannau llai gyfrifoldebau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ond does dim disgwyl iddynt wneud yr un math o 'addasiadau rhesymol' ac i'r un lefel â'r canolfannau mwy.
Mae llawer o'r canolfannau mwy'n cynnig gwybodaeth i gwsmeriaid dall neu i gwsmeriaid gyda nam ar eu golwg mewn fformatau gwahanol - megis rhaglenni mewn print bras.
Mae llawer o theatrau a chanolfannau eraill yn cynnig perfformiadau gyda disgrifiadau llafar. Dyma wasanaeth lle mae'r digwyddiadau, y newidiadau yn y golygfeydd neu iaith gorfforol y perfformwyr yn cael eu disgrifio yn ychwanegol at y deialog. Rydych yn gwrando ar sylwebaeth fyw trwy glustffonau.
Gwnewch yn siwr eich bod yn archebu'r cyfleuster hwn wrth archebu'ch tocynnau. Bydd y canolfannau'n gallu rhoi gwybod i chi trwy eu staff archebu, eu gwefannau, eu taflenni neu neges ffôn wedi'i recordio pryd y byddant yn cyflwyno perfformiadau gyda disgrifiad llafar.
Mae llawer o'r canolfannau mwy'n cynnig gwybodaeth i gwsmeriaid dall neu i gwsmeriaid gyda nam ar eu golwg mewn fformatau gwahanol - megis rhaglenni mewn print bras.
Mewn rhai lleoliadau, mae nodiadau disgrifio ar gael cyn i'r perfformiad gychwyn i 'osod y llwyfan' ac efallai gyda manylion cefndir y perfformwyr. Gall y rhain fod ar gael ar dâp, mewn Braille ac mewn print bras. Mae arwyddion sy'n hawdd eu darllen yn cael eu cyflwyno trwy'r amser.
Efallai fod rhai mannau lle mae cynllun y lleoliad neu'r ganolfan yn cael ei ddarparu mewn Braille yn ogystal â gwybodaeth arall megis bwydlenni bar.
Weithiau, efallai y bydd gan ganolfan loriau â gwead arbennig i'ch helpu chi ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas.
Os oes gennych gi cymorth neu gi cefnogi, cysylltwch â'r ganolfan o flaen llaw er mwyn iddynt roi'r seddau mwyaf addas i chi. Weithiau, ni chaniateir i gi cymorth fynd i mewn i'r neuadd ei hun ond dylai'ch ci gael ei gadw mewn man addas yn ystod y perfformiad.
Os oes angen, gall aelod o staff eich helpu i'ch sedd a threfnu tacsi ar eich cyfer ar ddiwedd y perfformiad.