Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ffurflenni cais a chyfeiriadau post ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth, rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn a Thaliad Tanwydd Gaeaf. Gallwch hefyd lawrlwytho taflenni i'ch helpu i gynllunio ar gyfer ymddeol ac ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn cynllunio ar gyfer ymddeol neu eisoes wedi ymddeol.
Y ffordd gyflymaf a symlaf o wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth yw ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7898. I gael manylion am oriau agor, rhifau ffôn testun a rhifau ffôn yng Nghymru, gweler y ddolen ganlynol.
Ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth (BR1)
Anfonwch eich ffurflen gais am Bensiwn y Wladwriaeth i'ch canolfan bensiwn.
Ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth [i ymgeiswyr o dramor] (IPCBR1)
Os ydych yn ymgeisydd o dramor sy'n gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, anfonwch eich ffurflen IPCBR1 i:
The Pension Service
International Pension Centre
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
England
NE98 1BA
Mae sut y gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth wedi newid. Gweler 'Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth' i gael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud a pha ffurflenni y gall fod eu hangen arnoch.
Y ffordd gyflymaf a symlaf o wneud cais am Gredyd Pensiwn yw ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234. I gael manylion am oriau agor, rhifau ffôn testun a rhifau ffôn yng Nghymru, gweler y ddolen ganlynol.
Gallwch gwblhau'r ffurflen gais am Gredyd Pensiwn a'i dychwelyd drwy'r post. Mae dwy ffordd o wneud hyn:
Nodwch 'Rhadbost' yn glir ar yr amlen er mwyn ei phostio am ddim.
Os cawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf y llynedd a'ch bod yn gymwys o hyd, dylech gael eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig eleni. Nid oes angen i chi wneud cais eto.
I wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais o’r ddolen ganlynol:
Ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeafau blaenorol yn y DU yn 1997-98, 1998-99 a 1999-2000 (WFP1R)
Anfonwch eich ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer y gaeafau blaenorol hyn i:
Winter Fuel Payment Centre
Department for Work and Pensions
PO Box 22
Gateshead
NE92 1BX
Ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf - ar gyfer gaeafau blaenorol yn yr AEE a'r Swistir (WFP2)
Anfonwch eich ffurflen WFP2 i:
Winter Fuel Payment Centre
Department for Work and Pensions
Room TC 109
Tyneview Park
Newcastle upon Tyne
England
NE98 1BA
Anfonwch eich ffurflen 'Pensiynau ac ysgariad neu ddiddymiad' (BR20) i:
Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Canllaw ar bensiynau - os ydych yn cynllunio ar gyfer ymddeol
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes