Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth Cynnar – astudiaethau achos

Yma, mae rhieni plant anabl yn sôn am eu profiadau a sut mae’r rhaglen Cymorth Cynnar wedi eu helpu i oresgyn amrywiol broblemau.

“Mae ein gweithiwr allweddol yn gwneud popeth yr hoffwn pe bai gennyf amser i’w gwneud”

"Cyn i’r gweithiwr allweddol ddod i’n bywydau roeddwn yn ystyried rhoi'r gorau i ddiwrnod arall o waith. Nid yw hynny’n angenrheidiol erbyn hyn, diolch byth."

Mae mam merch â pharlys yr ymennydd yn esbonio sut yr oedd cymorth gan ei gweithiwr allweddol Cymorth Cynnar yn golygu y gallai hi barhau i weithio a mwynhau amser gyda’i theulu:

"Mae fy nheulu i wedi cael gwasanaeth rhagorol gan y cynllun Cymorth Cynnar ers i'm merch gael ei diagnosio gyda dystonic quadriplegia, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel parlys yr ymennydd. Neilltuwyd gweithiwr allweddol i ni bryd hynny.

Fel mam sy’n gweithio ac yn magu plentyn ag anghenion arbennig, mae fy amser yn werthfawr. Gweithio am bedwar diwrnod, apwyntiadau diddiwedd, ffisiotherapi dyddiol – rwy’n gorfod dod o hyd i’r amser i wneud hyn yn ogystal â dod o hyd i’r amser i fwynhau bod yng nghwmni fy mhlentyn a'm teulu.

Cyn i’r gweithiwr allweddol ddod i’n bywydau roeddwn yn ei chael yn anodd gwneud hyn ac yn ystyried rhoi'r gorau i ddiwrnod arall o waith. Nid yw hynny’n angenrheidiol erbyn hyn, diolch byth.

Mae ein gweithiwr allweddol yn llwyddo i wneud popeth yr hoffwn pe bai gennyf yr amser a'r egni i'w gwneud ond, yn realistig, nad yw hynny’n bosib. Byddwn wrth fy modd pe bai gennyf amser i gydlynu’r holl bobl broffesiynol, trefnu cynllun gwasanaeth y teulu er mwyn galluogi’r holl therapyddion i ddeall ein hamcanion, neu dreulio oriau ar y ffôn yn cael atebion pendant i gwestiynau am anghenion ein plentyn. Mae ein gweithiwr allweddol yn gwneud hyn i gyd ar ein rhan.

Mae gennym ffydd yn ei gallu a dydy hi erioed wedi ein gadael i lawr, gydag apwyntiadau na gwybodaeth. Mae hi hefyd wedi bod yn gefn i mi pan mae bywyd wedi ymddangos yn gwbl annheg a minnau’n methu gweld y golau ym mhen draw’r twnnel. Rwy’n ddiolchgar iawn iddi hi ac i’r gwasanaeth am hynny."

“Mae Cymorth Cynnar wedi rhoi hyder i mi”

"Rydw i wedi darllen drwy’r llyfrynnau, fel yr un ar asesiadau statudol, ac wedi cael cymorth i ddeall pam mae angen i mi wneud datganiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod fy merch yn mynd i’r ysgol."

Mae mam merch â spina bifida a hydroceffalws yn sôn am y modd y gwnaeth y cymorth a gafodd gan ei gweithiwr allweddol Cymorth Cynnar godi ei hyder a'i galluogi i chwarae rôl weithredol yn addysg ei merch:

"Roeddwn i’n feichiog pan gefais wybod bod ganddi spina bifida a hydroceffalws, a’i bod yn bosib na fyddai hi byth yn cerdded. Roeddwn i’n poeni, yn ofnus hyd yn oed, pan gafodd hi ei geni.

Rhywun a oedd yn ein helpu wnaeth fy rhoi mewn cysylltiad â Chymorth Cynnar. Fyddwn i ddim wedi cyrraedd y fan hon yn awr heblaw am fy ngweithiwr allweddol Cymorth Cynnar. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael gweithiwr allweddol; maent yn gwneud llawer o wahanol bethau i chi. Mae hi wedi ysgrifennu’r holl lythyrau ar gyfer yr holl bobl wahanol sy’n gysylltiedig, ac mae hi'n helpu i wneud galwadau ffôn.

Roedd hi’n gefnogol iawn hefyd pan oedd fy merch i mewn ac allan o’r ysbyty yn cael llawdriniaeth.

Fe wnaeth hi hefyd fy mherswadio i edrych ar wahanol ysgolion. Rydym wedi dewis un lle mae’r plant yn dod draw i chwarae gyda’r plant bach sydd â phroblemau eraill. Mae’n ymddangos yn ysgol braf iawn ar gyfer fy merch. Mae’n bwysig ei bod yn rhyngweithio â phlant eraill.

Rydw i wedi darllen y llyfrynnau, fel yr un ar asesiadau statudol, ac wedi cael cymorth i ddeall pam mae angen i mi wneud datganiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod fy merch yn cael mynd i ysgol.

Fyddwn i ddim wedi meddwl am adael iddi fynd i'r ysgol cyn hynny, mi fyddwn i wedi dweud "Rydw i am ei chadw gartref gyda mi rhag ofn iddi gael ei bwlio". Nawr bod popeth wedi cael ei egluro i mi, fod plant anabl yn gwneud yn iawn yn yr ysgol, mae wedi newid fy meddwl yn llwyr.

Mae Cymorth Cynnar yn eich helpu i ddeall eich plentyn ac yn eich helpu chithau hefyd. Mae wedi rhoi llawer o hyder i mi ynof fy hun oherwydd doedd gen i ddim hyder o gwbl pan anwyd fy merch. Ddwy flynedd yn ôl fyddwn i ddim am i berson newydd ddod i'm cartref hyd yn oed, fyddwn i ddim wedi mynd i gwrdd â phobl newydd.

Mae Cymorth Cynnar yn wirioneddol wych."

“Mae Cymorth Cynnar wedi ein helpu i chwerthin eto”

"Am yr ychydig fisoedd ar ôl y diagnosis, roedd emosiynau pob un ohonom ar chwâl. Dydw i ddim yn cofio sawl gwaith y bu’n rhaid i ni ailadrodd hanes ein teulu."

Mae mam yn sôn am sut y gwnaeth Cynllun Gwasanaeth y Teulu Cymorth Cynnar helpu ei theulu yn ystod y cyfnod anodd ar ôl i'w mab ieuengaf gael ei ddiagnosio ag awtistiaeth:

"Mae ein mab ieuengaf, A, bron yn dair oed ac mae’n awtistig iawn. Cafodd ei ddiagnosio pan oedd yn 21 mis oed.

Am yr ychydig fisoedd ar ôl y diagnosis, roes emosiynau pob un ohonom ar chwâl. Dydw i ddim yn cofio faint o bobl y gwnaethom gwrdd â nhw na sawl gwaith y bu’n rhaid i ni ailadrodd hanes ein teulu.

Roeddwn i’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn crïo neu'n holi am apwyntiadau dros y ffôn. Doedd ar fy ngŵr ddim eisiau siarad am y peth ac roedd ein mab hŷn, a oedd yn chwech oed ar y pryd, yn meddwl bod A yn marw oherwydd ein bod yn treulio cymaint o amser yn yr ysbyty.

Clywais am y rhaglen Cymorth Cynnar – a sôn am wahaniaeth mae cael C fel ein gweithiwr allweddol wedi’i wneud i’n bywydau!

Esboniodd C y cynllun i mi a’m cyflwyno i’r Pecyn Teulu. Roedd y llyfryn ar awtistiaeth yn unig yn werthfawr tu hwnt – roedd yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnwys yr wybodaeth a’r cyngor nad oeddem wedi’u cael o’r blaen.

Ar ôl ychydig gyfarfodydd fe wnaethom ddechrau meddwl am Gynllun Gwasanaeth y Teulu. Roedd gwneud yn siŵr bod yr holl bobl allweddol yno’n sialens, ond gofalodd C am y gwaith cynllunio a’r gwaith gweinyddol. Gan ein bod wedi cynllunio ein hagenda ymlaen llaw, roedd pawb yn canolbwyntio’n llwyr ac roeddem wedi cytuno ar ein cynllun mewn dim o dro. Ers hynny, mae pawb a oedd yn gysylltiedig wedi darparu’r gwasanaeth y cytunasant iddo yn y cyfarfod hwnnw.

Mae A yn blentyn hapusach o lawer nag yr oedd flwyddyn yn ôl. O ganlyniad, rydym yn deulu hapusach o lawer ac yn ymdopi'n dipyn gwell gyda bywyd o ddydd i ddydd. Rydym yn gwybod nad yw’r dyfodol yn mynd i fod yn hawdd, ond diolch i’r cymorth yr ydym wedi bod yn ei gael, mae pob un ohonom wedi dysgu chwerthin a mwynhau bywyd eto."

Allweddumynediad llywodraeth y DU