Talu a Danfon

Ble alla i dod o hyd i rif y cerdyn talu?Rhif y Cerdyn yw'r rhif hir wedi'i godi ar y tu blaen yng nghanol y cerdyn talu. Mae'r rhif hwn yn tueddu i fod yn 15 i 19 digid o hyd. Gellir talu drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd. Rydym yn derbyn cardiau debyd UK Maestro, VISA Debit ac Electron a chardiau credyd VISA a Mastercard.
Beth yw'r Côd Diogelwch?Nodwedd diogelwch newydd pwysig yw'r cod diogelwch sydd yn awr yn ymddangos ar gefn y rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd. Rhif tri digid ydyw, sy'n medru gwirio'r wybodaeth sydd wedi'i boglynnu ar y cerdyn.
Mae'r Côd Diogelwch yn helpu i ddilysu body y cerdyn talu mewn gwirionedd ym meddiant y cwsmer a bod cyfrif y cerdyn talu yn gyfreithlon. Dim ond ar y cerdyn y mae'r cod wedi'i argraffu ac nid yw'n cael ei gynnwys yn y wybodaeth strip magnetaidd nac ychwaith ar dderbynebau gwerthiant na chyfriflennu bilio - rhiad i chi fod â'r cerdyn yn eich meddiant er mwyn defnyddio'r cod hwn.
Pam na chafodd fy ngherdyn ei dderbyn?Rhaid i chi gysylltu â chyhoeddwr y cerdyn talu i ddarganfod pam na chafodd y cerdyn talu ei dderbyn (banc, cymdeithas adeiladu).
I ba gyfeiriad yr anfonir y disg treth a'r dderbynneb?Anfonir y disg treth a'r dderbynneb i gyfeiriad y cediwad cofrestredig fydd ar gofrestr y DVLA ar y pryd a dylai gyrraedd drwy'r post o fewn 5 niwrnod gwaith. Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar ac heb dderbyn y Dystysgrif Cofrestru â'ch cyfeiriad newydd arni.
A fyddai'n derbyn cadarnhad HOS?Os ydych heb ddarparu cyfeiriad e-bost, printiwch y dudalen cadarnhad HOS gan ddefnyddio'r botymau ar ochr dde'r sgrin gan fydd DVLA ddim yn anfon llythyr cydnabyddiaeth i chi.
Os nad yw hyn yn bosib dylech wneud nodyn o'r rhif cyfeirnod a'r Rhif Cofrestru Cerbyd a gellir eu defnyddio i gadarnhau eich cais.
Pam ei bod hi'n cymryd hyd at 5 niwrnod gwaith i ddosbarthu disg treth?Rydym yn caniatáu hyd at ddiwrnod i'r cais gael ei brosesu. Bydd, y disg treth wedyn yn cael ei argraffu a'i anfon i'r Post Brenhinol i'w anfon atoch. Gall hyn gymryd hyd at 5 niwrnod gwaith.
Dydw i ddim wedi derbyn y ddisg dreth. Beth ddylwn i wneud?Os na fydd y disg treth wedi cyrraedd ar Ôl 5 niwrnod gwatih, ffoniwch ni rhwng 8.00yb a 8.30yh ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00yb a 5.30yh ar Sadyrnau ar 0300 123 4321. Pan fyddwch yn rhoi galwad, gofalwch fod eich Rhif Cyfeirnod ar gael a dewiswch opsiwn 4 ac yna opsiwn 1.
Rydw i wedi derbyn disg dreth anghywir/wedi'i difrodi. Beth ddylwn i wneud?Ffoniwch ni rhwng 8.00yb a 8.30yh ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00yb a 5.30yh ar Sadyrnau ar 0300 123 4321. Pan fyddwch yn rhoi galwad, gofalwch fod eich Rhif Cyfeirnod ar gael a dewiswch opsiwn 4 ac yna is-opsiwn 1.
Ga i gadarnhad fy mod wedi gwneud cais am ddisg dreth?Os byddwch yn gwneud cais am ddisg dreth ar ein gwefan, gellir argraffu'r dudalen Gadarnhau a'i defnyddio fel cadarnhad. Hefyd os rhowch chi eich cyfeiriad ebost ar y wefan, byddwch yn derbyn cadarnhad o'r gweithrediad drwy ebost.
Os byddwhc yn gwneud cais am ddisg dreth dros y ffôn, bydd y rhif cyfeirnod am y gweithrediad yn cael ei roi i chi.
Nôl i ddechraur dudalen