Gwirio Yswiriant ac MOT/GVT
Mae gennyf yswiriant dilys, pam nad oeddech chi'n gwybod hynny?Os ydych yn ddiweddar wedi adnewyddu, diweddaru neu newid y polisi yswiriant, efallai nad yw'r manylion wedi'u diweddaru eto ar Basdata Yswiriant Modur (MID). Golyga hyn nad ydym ni'n gallu gwirio bod y cerbyd wedi'i yswirio. Gallai olygu hefyd bod eich polisi yswiriant cyfredol yn dod i ben yn fuan cyn dyddiad dechrau'r eich disg treth newydd.
Bydd angen i chi wneud cais am ddisg treth yn un o ganghennau Swyddfa Bost® sy'n cyhoeddi disgiau treth gan defnyddio'r nodyn atgoffa neu'r Dystysgrif Cofrestru ynghyd â'r yswiriant perthnasol a'r dystysgrif MoT/GVT (os yn berthnasol) a'r ffi.
Beth yw'r Basdata Yswiriant Modur (MID)?Mae'r Basdata Yswiriant Modur yn cadw manylion polisïau yswiriant cerbydau cofrestredig ym Mhrydain fel y cyflwynir hwy gan yswirwyr moduro Prydain Fawr. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r yswirwyr roi'r wybodaeth hon i'r MID.
Sut ydych chi'n gwirio bod cerbyd wedi yswirio?Pan fyddwch yn gwneud cais am ddisg treth ar-lein neu dros y ffôn, bydd yswiriant y cerbyd yn cael ei wirio'n electronaidd gyda'r
Basdata Yswiriant Moduro (MID).
Mae angen adnewyddu fy nhreth car ar ddiwrnod cyntaf y mis ond mae fy Nhystysgrif Yswiriant yn dod i ben y diwrnod cynt. Alla i wneud caise am treth yn awr?Na allwch. Rhaid i'r Dystysgrif Yswiriant neu'r Nodyn Diogelu fod yn ddilys ar y diwrnod y mae'r ddisg dreth yn dechrau.
All y cwmni yswiriant eich ffonio neu anfon dogfen atoch i gadarnhau bod gennyf yswiriant?Na. Er mwyn defnyddio Trwyddedu Cerbyd Arlein rhaid gwirio'r wybodaeth yswiriant yn electronig. Os nad yw'r wybodaeth ar gael ar y basdata ni fyddwch gallu ddefnyddio'r gwasanaeth hwn a dylech wneud cais am y ddisg dreth yn un o ganghennau Swyddfa'r Bost® sy'n rhoi disgiau treth gan ddefnyddio'r nodyn atgoffa neu'r Dystysgrif Cofrestru ynghyd â'r yswiriant perthnasol a'r dystysgrif MoT/GVT (os yn bertnasol) a'r ffi.
Alla i wneud cais am ddisg dreth i fy ngherbyd drwy ddefnyddio yswiriant fy ngwraig/fy ngŵr?Bydd ceisiadau yn dderbyniol dan rai amgylchiadau lle nad y ceidwad cofrestredig sy'n dal y polisi. Ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os na fydd y Rhif Cofrestru Cerbyd sydd ar y Dystysgrif Yswiriant yr un â'r cerbyd sy'n cael ei drethu.
Mae gennyf Gerdyn Gwyrdd (Cerdyn Yswiriant Cerbyd Rhyngwladol). Alla i ddefnyddio hwn i wneud cais am ddisg dreth?Na allwch. Dydy'r 'Cerdyn Gwyrdd' ddim yn dderbyniol, oherwydd nid Tystysgrif Yswiriant ydyw. Dangos mae'r 'Cerdyn Gwyrdd' bod ddaliwr y cerdyn sicrwydd yswiriant pe byddai'n gysylltiedig â damwain draffig wrth deithio tu allan i'w wlad genedigol. I wneud cais am ddisg treth rhaid i'r cerbyd fod â Thystysgrif Yswiriant DU ddilys.
Mae fy ngherbyd ag yswiriant tramor arno. Pam na allwch chi dderbyn y Dystysgrif?Rhaid i gwmnïau yswiriant sy'n cynnal eu busnes yn y DU fod yn aelod o'r Biwro Yswirio Moduron. Nid oes dim i rwystro yswiriwyr o du allan i'r DU rhag dod yn aelodau o'r Biwro ond does yr un ohonynt wedi dewis gwneud hynny eto.
Mae gen i Tystysgrif Prawf MOT/GVT, pam nad ydych chi'n gwybod hynny?Mae'n ymddangos nad yw'r crbyd wedi'i ddiweddaru eto ar y basdata Trwyddedau MoT. Gallwch ffonio'r llinell gymorth MOT am fwy o wybodaeth (gyda chaniatâd perchennog y cerbyd). Y rhif ffôn yw 0300 123 9000.
Alla i roi cyfeirnod neu god i mewn fel eich bod yn gallu gwirio bod fy Nhystysgrif Prawf MOT/Tystysgrif Prawf GVT yn gywir?Na allwch. Dim ond yn erbyn y basdata Tystysgrifau Prawf MoT/GVT y gallwn ni wirio Rhif Cofrestru'r Cerbyd.
Pa mor aml y bydd y Basdata Tystysgrifau yn cael ei ddiweddaru?Dylai fod wedi'i ddiweddaru cyn gynted ag y bydd y prawf wedi'i gwblhau mewn brawf gyfrifiaduredig.
Beth yw Tystysgrif Prawf MOT electronig? Ble alla i gael un?Cadarnhad swyddogol bod prawf MOT wedi'i wneud a chanlyniad y prawf wedi'i roi mewn ar y Basdata Trwyddedau MoT Cyfrifiadurol.
Gaelir gofyn am Dystysgrif MOT o unrhyw orsaf profi cerbydau, sydd wedi gosod offer cyfrifiadurol yno.
Sut ydych chi'n gwirio bod gan y cerbyd Dystysgrif Prawf MOT/Tystysgrif GVT?Pan fyddwch yn gwneud cais am ddisg treth drwy defnyddio'n gwasanaeth ar-lein neu dros ffôn, bydd Tystysgrif MoT/PCN y cerbyd yn cael ei wirio'n electronig gyda'r Basdata Tystysgrif MoT/GVT.
Mae angen adnewyddu fy nhreth car ar ddiwrnod cyntaf y mis on mae fy Nghystysgrif Yswiriant yn dod i ben y diwrnod cynt. Alla i wneud cais am ddisg dreth nawr?Na allwch. Rhaid i'r Dystysgrif Prawf MOT fod yn ddilys ar y dyddiad bydd y disg treth yn dechrau.
Ydych chi'n derbyn Tystysgrifau Prawf MOT/GVT o Ogledd Iwerddon?Nag ydywm. Dydyn ni ddim yn gallu gwirio Tystysgrifau Prawf MOT/GVT Gogledd Iwerddon yn electronig. Er bod Gogledd Iwerddon yn rhan o'r DU, mae ganddynt awdurdod cofrestru a thrwyddedu ar wahân.
Gallwch, fodd bynnag, ddefnyddio'r Tystysgrif Prawf MOT/GVT Gogledd Iwerddon i wneud cais am ddisg dreth yn unrhyw Swyddfa'r Bost® sy'n rhoi disigiau treth neu Swyddfa Leol y DVLA (os oes gennych Gerbyd Nwyddau Trwm).
Nôl i ddechraur dudalen