Sut i wneud cais am Ddisg Dreth/Datgan HOS dros y Ffôn neu'r Rhyngrwyd
Sut ydw i'n gwneud cais am ddisg dreth gan ddefnyddio fy llythyr atgoffa neu Ddogfen/ Tystysgrif Gofrestru?Cyn belled ag y bo manylion ceidwad cofrestredig y cerbyd yn gywir a bod gennych Dystysgrif Prawf MOT electronig/Tystysgrif Prawf GVT (os yw'n briodol) dros y ffôn.
Os nad ydych yn medru defnyddio'r gwasanaeth hwn bydd yn rhaid i chi wneud cais am ddisg dreth mewn Swyddfa Bost® sy'n rhoi trwyddedau neu Swyddfa DVLA Leol gyda'ch llythyr atgoffa a'r ffi.
Sut ydw i'n gwneud cais am ddisg dreth heb fy nodyn atgoffa am adnewdyddu na fy Nhystysgrif Cofrestru?I ail-drwyddedu cerbyd drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn rhaid i chi fod â nodyn atgoffa neu Ddogfen/Tystysgrif Cofrestru gyda chi bob tro.
Bydd angen i chi gysylltu ag adran Ymholiadau Cerbydau DVLA am gyngor. Y rhif ffôn yw 0300 790 6802.
Bydd cynghorydd yn gallu eich helpu: rhwng 8.00yb a 7.00yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00yb a 2.00yh ar Sadyrnau.
Sut ydw i'n newid dosbarth treth fy ngherbyd a gwneud cais am ddisg treth?Am wybodaeth sut i newid dosbarth treth y cerbyd, ewch i
Sut i drethu'ch cerbyd gyda ffurflen atgoffa
.
Os i chi am drethu cerbyd busnes ewch i
safle Business Link
Rwyf am wneud cais am ddisg dreth ond nid yw manylion fy ngherbyd yn gywir.Bydd rhaid i chi gysylltu ag Adran Ymholiadau Cerbydau DVLA am gyngor. Y rhif ffôn yw 0300 790 6802.
Bydd ymgynghorydd ar gael i'ch helpu rhwng 8.00yb a 7.00yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00yb a 2.00yh ar Sadyrnau.
Bu farw'r ceidwad cofrestredig yn ddiweddar. Mae'r cerbyd yn cael ei ddfenyddio gan y teulu. Alla i drethu'r cerbyd?Bydd rhaid i chi gysylltu ag Adran Ymholiadau Cerbydau DVLA am gyngor. Y rhif ffôn yw 0300 790 6802.
Bydd ymgynghorydd ar gael i'ch helpu: rhwng 8.00yb a 7.00yh o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00yb a 2.00yh ar Sadyrnau.
Sawl cerbyd alla i ail-drwyddedu drwy gyfrwng y gwasanaeth hwn?Nid oes cyfyngiad ar nifer o gerbydau y gellir eu hail-drwyddedu gan defnyddio'r system, cyn belled â bod yna yswiriant arnynt, ac os yn berthnasol, bod ganddynt Dystysgrif MoT/Prawf GVT.
Allwch chi ddim ond ail-drwyddedu un cerbyd ar y tro.
Nôl i ddechraur dudalen