Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad HOS a Dogfen/Tystysgrif Cofrestru

Beth yw'r nodyn atgoffa?Anfonir y nodyn atgoffa gan y DVLA cyn i ddyddiad disg treth neu ddatganiad HOS ddod i ben. Mae Rhif Cyfeirnod ar gael ar du blaen Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad HOS. Gellir defnyddio'r rhif cyfeirnod hwn i wneud cais am ddisg treth neu i ddatgan HOS ar ein gwefan neu drwy ddefnyddio ein gwasanaeth.ffôn.
Beth yw Tystysgrif Cofrestru?Tystysgrif Cofrestru Cerbyd yw'r V5C. Mae
  • yn dangos pwy yw ceidwad cofrestredig y cerbyd (dyma'r person neu'r cwmni sy'n cadw cerbyd, nid perchennog cyfreithlon y cerbyd o anghenriad).
  • yn rhoi enw a chyfeiriad y ceidwad, rhif cofrestru'r cerbyd a gwybodaeth arall am y cerbyd; a
  • chaiff ei dosbarthu bob tro y byddwn yn diweddaru ein cofnodion ar ôl i fanylion newid.
Ble alla i ddod hyd i Rif Cyfeirnod y Ddogfen?Mae rhif cyfeirnod y ddogfen i'w gael ar Dystysgrif Cofrestru y cerbyd.
Ble mae Cyfeirnod y Ddogfen?Gwelir cyfeirnod y ddogfen ar Ddogfen/ Tystysgrif Gofrestru'r cerbyd (a elwir hefyd yn Llyfr Log).
Tystysgrif Cofrestru

Fersiwn Newydd Fersiwn Flaenorol
Mae gan Dystysgrif Cofrestru'r DU (V5CW) rhif cyfeirnod dogfen yn y canol ar yr ochr dde Mae gan Dystysgrif Cofrestru'r DU (V5CW) rhif cyfeirnod dogfen yn y canol ar yr ochr dde
Beth yw'r Rhif Cofrestru Cerbyd?Rhif Cofrestru Cerbyd yw'r fformat rhif a llythyren unigryw a arddangosir ar du blaen a chefn eich cerbyd.
Gellir dod o hyd y Rhif Cofrestru ar eich Tystysgrif Cofrestru.
Nôl i ddechraur dudalen