Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cyngor am eich opsiynau dysgu a gwaith

Pan fyddwch yn 16 oed, mae nifer o gyfleoedd addysg, hyfforddi a gwaith y gallwch eu hystyried. I'ch helpu i ddewis beth sydd orau i chi, mae cynghorwyr gyrfa ar gael i’ch helpu ar hyd pob cam o’r ffordd.

Cynllunio eich nodau gyrfaol

Gall fod yn gymhleth pan fyddwch yn penderfynu pa ddewisiadau gyrfa i’w dilyn.

Os bydd eich dewisiadau yn gwneud y mwyaf o’ch sgiliau a’ch gallu, gallwch edrych ymlaen at ddyfodol hapus.

Fodd bynnag, mae’n bosib nad ydych yn gwybod pa fath o yrfa y carech ei dilyn eto. Mae’n bosib eich bod yn meddwl ei bod hi'n rhy gynnar i feddwl am yr hyn y byddwch yn ei wneud ymhen pump neu ddeng mlynedd.

Wrth i fyd gwaith newid mor gyflym, sut y gallwch ddod o hyd i'r llwybr iawn? I wneud y penderfyniadau sy’n iawn i chi, bydd angen help arnoch.

Pa gymorth sydd ar gael?

Pan fyddwch yn cynllunio’ch dyfodol, bydd cynghorwyr hyfforddedig yn gallu cynnig:

  • gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol am eich dewisiadau yn eich bywyd personol a’ch dewisiadau o ran dysgu a gyrfa
  • cyngor ynghylch lle i fynd i gael help sy'n berthnasol i chi a sut i'w ddefnyddio yn eich bywyd chi

Bydd eich cynghorwr hefyd yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • penderfynu beth y carech ei wneud
  • deall beth y gallwch ei gyflawni
  • datrys unrhyw broblemau yn eich bywyd
  • cael dyfodol disglair

Mae hefyd llawer o gymorth ar-lein y gallwch ei ddarllen.

Cael cymorth o Flwyddyn 7 ymlaen

Os ydych chi’n hŷn nag 11 oed, bydd tiwtor personol yn eich helpu i gael gwybodaeth arbenigol pan fydd ei angen arnoch chi. Byddan nhw hefyd yn datrys unrhyw broblemau sy’n torri ar draws eich dysgu.

Er enghraifft, bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddod o hyd i’r canlynol:

  • addysg gyrfaoedd o safon uchel i’ch helpu i gynllunio a rheoli’ch gyrfa
  • cyngor diduedd am eich dysg a'ch dewisiadau gwaith, gan gynnwys Prentisiaethau, y Diploma, Dysgu Sylfaen, TGAU a Safon Uwch
  • cyfleoedd i roi cynnig ar gymwysterau gwahanol i benderfynu a ydynt yn addas i chi
  • gwybodaeth am y cyfleoedd a'r buddiannau o addysg uwch a'r hyn sydd ei angen arnoch chi i fynd i’r brifysgol

Dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith ym Mlynyddoedd 10 ac 11

Ym mlynyddoedd 10 ac 11, gallwch gymryd rhan mewn dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith. Bydd eich ysgol fel arfer yn trefnu hyn, ond eich dewis chi yw penderfynu pa fath o lwybr gyrfaol y carech gael gwybod mwy amdano.

Gallai’r dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith fod yn un o’r canlynol:

  • sesiynau blasu ar gyfer gwaith
  • cyflogwr yn ymweld â’ch ysgol
  • profiad o weithio mewn gweithle go iawn

Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y byd gwaith i’ch helpu i wneud penderfyniadau am eich addysg a’ch dewisiadau gyrfaol.

Cael cymorth gan arbenigwr gyrfa

Mae gan bob person ifanc fynediad at y canlynol:

  • cyngor un i un a chefnogaeth gan gynghorwr Connexions lleol
  • gwybodaeth a chyngor dros y ffôn ac ar-lein bob dydd gan Connexions Direct
  • gwybodaeth am wasanaethau cefnogi lleol ar gyfer unrhyw broblemau personol, cymdeithasol, problemau’n ymwneud ag iechyd neu broblemau ariannol gan eich awdurdod lleol
  • gwybodaeth am bob rhaglen ddysgu leol ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yn eich prosbectws ar-lein lleol

Erbyn 2011, byddwch hefyd yn gallu gwneud cais ar-lein ar gyfer cyfleodd dysgu drwy broses ymgeisio gyffredin os ydych yn 16 oed neu’n hŷn.

Golyga hyn y byddwch yn gwneud cais am unrhyw gwrs o’r un wefan, gan ddefnyddio’r un broses ymgeisio, lle bynnag yr ydych yn byw yn y wlad.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU