Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gwybod am ysgol gynradd eich plentyn

Er mwyn paratoi eich plentyn ar gyfer yr ysgol, mae'n werth cael gwybod cymaint ag y gallwch chi am yr ysgol cyn eu diwrnod cyntaf. Mae'n bosib y byddwch am gael gwybod am ffordd o weithio a pholisïau'r ysgol, beth fydd ei angen ar eich plentyn a sut y bydd yn dysgu.

Cael gwybodaeth am ysgolion cynradd

Gallwch gael gwybod am eich ysgol leol drwy gael prosbectws gan adran addysg eich awdurdod lleol neu gan yr ysgol ei hun. Hefyd, fe allai fod yn werth sgwrsio â rhieni sydd eisoes â phlant yn yr ysgol.

Bydd llawer o ysgolion yn trefnu diwrnodau neu nosweithiau agored, a bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a gweld y tu mewn i ysgol eich plentyn.

Sut y bydd eich plentyn yn dysgu

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich ysgol gynradd, bydd y Cyfnod Sylfaenol yn parhau ac felly, dylai eich plentyn ddysgu mewn ffordd debyg a dilyn yr un math o weithgareddau ag yr oedden nhw'n gyfarwydd â nhw yn ystod y blynyddoedd cynnar. Gelwir dwy flynedd nesaf yr ysgol gynradd yn Gyfnod Allweddol 1 a'r pedair blynedd wedyn yn Gyfnod Allweddol 2. Yn ystod pob un o'r Cyfnodau hyn, mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn pennu pa bynciau gaiff eu dysgu.

Gall cael gwybod sut mae addysgu a dysgu'n digwydd fod yn help i chi gefnogi'ch plentyn er mwyn gwneud yn fawr o'u hamser yn yr ysgol.

Efallai yr hoffech holi:

  • am y dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir
  • am reolau'r ysgol
  • am bolisïau'r ysgol ar faterion megis gwaith cartref, ymddygiad, amddiffyn plant, presenoldeb a bwlio
  • am y cyfleusterau sydd ar gael, er enghraifft cyfleusterau'r llyfrgell neu chwaraeon
  • am drefniadau'r ysgol i roi gwybod i chi am gynnydd eich plentyn a sut y byddwch yn cael eich cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch dysgu eich plentyn
  • am sut y byddwch chi'n cael cymryd rhan yn addysg eich plentyn, er enghraifft drwy gymdeithasau rhieni-athrawon neu drwy ddod yn llywodraethwr
  • y ffordd orau i helpu’ch plentyn i ddysgu yn y cartref, er enghraifft drwy siarad â nhw ynghylch eu dysgu a darllen gyda nhw
  • am y cymorth sydd ar gael ar gyfer anghenion addysgol arbennig eich plentyn

Arferion beunyddiol

Bydd mynd i'r ysgol yn golygu newid arferion beunyddiol eich plentyn. Mae'n help cael gwybod:

  • pa bryd mae diwrnod yr ysgol yn dechrau ac yn gorffen
  • beth yw'r drefn arferol bob dydd
  • beth sy'n digwydd amser chwarae ac amser cinio
  • pa drefniadau sydd gan yr ysgol i helpu'ch plentyn i ymgartrefu cyn y diwrnod cyntaf
  • a yw'r ysgol yn cynnig gofal plant ychwanegol, gan gynnwys clwb brecwast neu ar ôl ysgol
  • dyddiadau'r tymhorau a'r gwyliau
  • beth fydd yn digwydd os bydd eich plentyn yn sâl yn yr ysgol
  • faint o amser fydd ei angen i baratoi ar gyfer yr ysgol ac i deithio yno
  • a fydd angen i chi brynu pethau cyn i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol, er enghraifft gwisg ysgol neu ddillad arbennig ar gyfer chwaraeon neu gelf

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU