Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleddfu ofnau'r diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd

Mae diwrnod cyntaf eich plentyn yn yr ysgol gynradd, mewn meithrinfa neu mewn cylch chwarae'n gam mawr. Fodd bynnag, mae digon o bethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud i'w paratoi nhw, fel siarad â'ch plentyn am yr ysgol a helpu i ddatblygu eu sgiliau ymarferol.

Siarad â'ch plentyn

Mae'n bosib y bydd eich plentyn yn poeni am beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod cynta'r ysgol.

Os felly, un ffordd o'u helpu yw sgwrsio â nhw am eu hofnau:

  • esboniwch i ble y byddan nhw'n mynd, beth y byddan nhw'n ei wneud ac am faint
  • atebwch gwestiynau, a lleddfwch unrhyw ofnau drwy ofyn iddyn nhw sut syniadau sydd ganddyn nhw am yr ysgol
  • pwysleisiwch y pethau y maen nhw'n debygol o'u mwynhau

Peidiwch â bychanu ofnau eich plentyn - mae pethau sy'n amlwg neu'n wirion i oedolion yn gallu bod yn fwgan mawr i blentyn pump oed.

Meithrin sgiliau ymarferol

Os oes gan blant syniad da o sut le fydd yr ysgol a'u bod nhw eisoes wedi cael profiad o weithgareddau dysgu gartref ac mewn sefyllfaoedd eraill, maen nhw'n llai tebygol o deimlo dan straen.

Gall gemau, chwarae rôl a darllen gartref fod o help i'ch plentyn fynd i'r ffrâm meddwl iawn a rhoi hwb i'w hyder.

Dyma rai o'r gweithgareddau y gallai eich plentyn eu gwneud:

  • chwarae gemau sy'n golygu cymryd eu tro neu siarad o flaen grŵp
  • chwarae gyda phlant o oedran tebyg er mwyn meithrin eu sgiliau cymdeithasol
  • darllen llyfrau am ddechrau'r ysgol
  • defnyddio hoff deganau eich plentyn i chwarae rôl mynd i'r ysgol
  • peintio a darlunio, sy'n golygu eistedd i lawr am gyfnodau byr

Yn ystod yr wythnosau cyn dechrau'r ysgol

Pan fydd diwrnod cynta'r tymor ar y gorwel, fe allech chi:

  • gynnwys eich plentyn wrth ddewis y pethau sydd eu hangen ar gyfer yr ysgol fel bag ysgol neu wisg ysgol
  • ymweld â'r ysgol gyda'ch plentyn er mwyn iddyn nhw gael cyfle i weld beth sy'n digwydd
  • bydd gan rai ysgolion drefniadau i gynorthwyo'ch plentyn wrth ddechrau yn yr ysgol ac efallai yr hoffech holi am hyn
  • sefydlu trefn ddyddiol a thrafod beth allai fod yn digwydd yn yr ysgol ar wahanol adegau o'r diwrnod

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU