Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ar ôl yr wythnosau cyntaf yn yr ysgol gynradd

Gallwch helpu i gefnogi'ch plentyn yn ystod yr wythnosau cyntaf yn yr ysgol gynradd drwy sefydlu trefn reolaidd gartref, dangos iddyn nhw eich bod yn rhoi gwerth ar eu cynnydd a'u hannog nhw i ymfalchïo yn eu gwaith.

Ar ôl y diwrnod cyntaf

Os yw eich plentyn wedi bod yn mynd i ddosbarth meithrin neu dderbyn, mae'n bosib eu bod wedi cael rhywfaint o baratoad ar gyfer yr ysgol gynradd ac felly, bydd symud i'r ysgol gynradd yn brofiad esmwyth. Fodd bynnag, hyd yn oed os mai dyna'r sefyllfa, fe all yr wythnosau cyntaf fod yn gyfnod o newid a straen iddyn nhw.

Mae'n bosib y bydd eich plentyn yn fwy blinedig na'r arfer a bod angen amser i ymlacio arnyn nhw. Yn hytrach nag ymddwyn yn fwy 'aeddfed', mae'n bosib y gwelwch chi eu bod nhw'n llithro'n ôl ac yn fwy anodd neu'n fwy anufudd, oherwydd straen y drefn newydd.

Mae'n bosib hefyd y bydd eich plentyn yn poeni am wneud ffrindiau neu'n mynd i'w cragen fwy nag arfer.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud

Er mwyn rhoi cymorth neu help i'ch plant drwy'r cyfnod dechreuol hwn sy'n gallu bod yn ddigon anodd, fe allai fod yn help i:

  • neilltuo amser i'w dreulio gyda'ch plentyn i sgwrsio am yr ysgol a chymryd diddordeb yn y pethau maen nhw'n eu gwneud
  • gwrando'n ofalus ar unrhyw bryderon a all fod gan eich plentyn
  • cael gwybod cymaint ag y bo modd am ysgol eich plentyn a beth sy'n digwydd yno yn ystod y dydd
  • ceisio cadw at drefn reolaidd gartref er mwyn lleihau'r elfen o straen
  • gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd a'u bod yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw newid i'w trefniadau
  • annog eich plentyn i ddod yn ffrindiau gyda phlant yn eu dosbarth
  • bod yn gadarnhaol eich agwedd oherwydd mae'n bosib y caiff rhai problemau eu datrys wrth i'ch plentyn addasu i ffordd newydd o fyw

Os na allwch chi ddatrys problemau eich plentyn drwy sgwrsio, efallai y byddai'n help siarad ag athro/athrawes eich plentyn am eich pryderon.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU