Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan y DU gytundebau rhyngwladol â mwy na 100 o wledydd ar gynhaliaeth plant. Os oes gennych orchymyn llys sy'n dweud y dylai eich cyn-bartner dalu cynhaliaeth plant i chi, gallwch geisio ei orfodi mewn gwlad dramor. Mynnwch wybod beth i'w wneud os yw eich cyn-bartner dramor ac nad yw'n talu cynhaliaeth.
Os ydych yn byw yn y DU a'ch bod am hawlio cynhaliaeth plant gan eich cyn-bartner sy'n byw dramor dylech fynd i'r lleoedd canlynol:
Byddwch yn gwneud cais drwy'r llys i gael eich gorchymyn wedi'i orfodi yn y wlad lle mae'ch cyn-bartner yn byw. Nid oes angen cyfreithiwr arnoch. Bydd staff y llys yn eich helpu gyda'r ffurflenni (er na all roi cyngor cyfreithiol i chi).
Byddant yn anfon eich cais at yr uned Gorchmynion Gorfodi Cynhaliaeth Cyfatebol (REMO) a fydd yn ei ddarllen ac yn ei anfon i'r llys tramor.
Bydd y llys a'r uned REMO yn prosesu eich cais cyn gynted â phosibl. Pan fydd y cais mewn llys tramor, bydd yn delio ag ef o dan gyfreithiau'r wlad honno.
Ni all y DU reoli pa mor hir y bydd y broses honno'n ei chymryd. Gall llys gadw llygad ar hynt eich cais drwy anfon llythyr i'r uned REMO a fydd yn ei anfon at y llys tramor er mwyn cael ymateb ganddo.
Os ydych am wybod am hynt y cais dylech bob amser ofyn i'r llys lle gwnaethoch eich cais i orfodi'r gorchymyn cynhaliaeth.
Gallwch wneud y rhan fwyaf o geisiadau am gynhaliaeth plant drwy lys ynadon am ddim. Os ydych yn defnyddio llys sirol i orfodi eich gorchymyn bydd angen i chi dalu ffi llys o £35.
Bydd yr uned REMO yn trefnu ac yn talu am unrhyw gyfieithiadau o ddogfennau pan fydd yn cael y cais.
Bydd y llys yn ystyried eich amgylchiadau personol, ac yn penderfynu faint o arian sydd ei angen gan eich cyn-bartner. Gallai eich cyn-bartner apelio yn erbyn y swm hwn.
Ni all awdurdodau'r DU wneud i lysoedd tramor orfodi eich cais am gynhaliaeth plant gan fod y system yn dibynnu ar gydweithio rhwng y ddwy ochr. Caiff penderfyniad ar ba un a ddylid gorfodi eich gorchymyn ei wneud yn y wlad arall.
Dylech roi cymaint o wybodaeth ymarferol â phosibl am ble mae eich cyn-bartner yn byw yn eich cais. Mae rhai gwledydd yn llwyddo i ddod o hyd i bobl gyda manylion anghyflawn.
Os ydych yn byw yn y DU, dylech fynd â'ch cais am gynhaliaeth plant i'r Asiantaeth Cynhaliaeth Plant. Os nad ydych yn byw yn y DU, dylech wneud cais drwy eich llywodraeth neu'ch system gyfreithiol eich hun.