Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich plentyn i gymryd rhan mewn chwaraeon

Yn ogystal â chadw plant yn ffit, yn iach ac yn egnïol, mae chwaraeon hefyd yn meithrin eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol. Yma cewch wybod sut y gall chwaraeon fod o fudd i'ch plentyn, a gweld pa gyfleusterau a chlybiau chwaraeon sydd yn eich ardal chi.

Pam mae chwaraeon yn bwysig?

Mae plant yn mynd yn llai a llai egnïol, ac mae hynny’n newyddion drwg i’w hiechyd. Mae plant sydd dros eu pwysau yn llawer mwy tebygol o gael diabetes neu glefyd y galon yn ddiweddarach yn eu bywyd, ac yn fwy tebygol o fod yn ordew pan fyddant yn oedolion. Er mwyn atal hyn, argymhellir bod pob plentyn yn gwneud rhywbeth egnïol am awr bob dydd, a chwaraeon yw’r ffordd orau o gyflawni hyn.

Cyfleusterau a chyrff chwaraeon y tu allan i'r ysgol

"Roedd fy mab wir eisiau dysgu am bêl-fasged, ac fe ddaeth gwefan Active Places o hyd i ganolfan leol ar ein cyfer" - Jean, Dudley

Mae Sport England yn darparu cyfleoedd a hyfforddiant ym maes chwaraeon ar gyfer plant ym mhob cwr o’r wlad. Mae gan wefan Active Places restr o 50,000 o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys cyrtiau tennis, pyllau nofio, canolfannau sglefrio, traciau athletau, caeau pêl-droed, cyrsiau golff - a llethrau sgïo hyd yn oed.

Gallwch edrych ar fap rhyngweithiol o’r wlad, chwilio am gyfleusterau yn eich ardal leol neu ddefnyddio enw a chyfeiriad cyfleuster penodol i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Clybiau chwaraeon ysgolion

Bydd amryw o ysgolion yn cynnig chwaraeon yn eu clybiau ar ôl ysgol. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rhain gan ysgol eich plentyn. Bydd adrannau addysg awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am nifer o gyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn lleol.

Cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau

Bydd amryw o sefydliadau’n rhedeg gwersylloedd gweithgareddau neu chwaraeon ar gyfer plant yn ystod y gwyliau. Gall y rhain fod yn wersylloedd preswyl neu'n wersylloedd dydd, ac fe’u bwriedir fel rheol ar gyfer plant rhwng 5 a 17 oed. Bydd rhai gwersylloedd yn cynnig un neu ddau fath penodol o chwaraeon, a bydd eraill yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon.

Mae gan bob sefydliad ei wefan ei hun, ac mae rhai wedi’u nodi isod. Rhedir gwersylloedd Kings Sports ym mhob cwr o’r DU yn ystod gwyliau'r haf a gwyliau’r Pasg, ac maent wedi’u cofrestru gydag Ofsted, felly dylai’ch plentyn gael gofal o ansawdd uchel. Neu, gallech roi cynnig ar Exportise, sy’n cynnal gwersylloedd chwaraeon ac iaith, neu Let Me Play, sy’n cynnal gwersylloedd chwaraeon a dawns, gan gynnwys gwersyll arbenigol ar gyfer plant sy’n tueddu i osgoi gweithgarwch corfforol.

Helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel wrth wneud chwaraeon

Dylai pob darparwr gweithgareddau chwaraeon fod â mesurau amddiffyn plant ar waith i sicrhau diogelwch pob plentyn sy’n cymryd rhan. Gallwch lwytho’r daflen wybodaeth ganlynol - 'Helping keep your child safe in sport' – i gael cyngor am y cwestiynau cywir i'w gofyn i wneud yn siŵr bod y mesurau hyn ar waith ac y cedwir atynt.

Cymorth ar gyfer plant ifanc dawnus

Os oes gan eich plentyn ddawn mewn chwaraeon, gall JAE ei helpu i wireddu'i lawn botensial heb i’w waith ysgol ddioddef

Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ddawn arbennig mewn chwaraeon, gall Junior Athlete Education (JAE) ei helpu i wireddu'i lawn botensial heb i'w waith ysgol ddioddef.

Rhaglen cefnogi talent ar gyfer ysgolion yw JAE, sy’n rhoi cymorth i athletwyr ifanc ac i’w rhieni neu'u gofalwyr. Mae’n helpu athletwyr ifanc i gael y cydbwysedd cywir rhwng hyfforddiant, cystadlaethau, gwaith ysgol, arholiadau a bywyd teuluol. Mae JAE hyd yn oed yn darparu mentoriaid yn yr ysgol ar gyfer plant dawnus.

I gael mwy o wybodaeth am JAE ac am sut y gall ysgol eich plentyn gymryd rhan, ffoniwch yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ar 01509 226 600 neu ewch i'r wefan.

Grantiau ac ysgoloriaethau chwaraeon

Mae’r Cynllun Chwaraeon Athletwyr Talentog (TASS) yn rhaglen a ariennir gan y llywodraeth, sy’n cynnig grantiau i athletwyr 16 oed a hŷn. Y syniad sy'n sail i’r grantiau yw caniatáu i athletwyr posibl feithrin eu gyrfa ym maes chwaraeon gan gadw cydbwysedd â’u hymrwymiadau gwaith neu eu bywyd academaidd.

Additional links

Plannwch goeden

Bod yn rhan o’r Big Tree Plant a gwnewch wahaniaeth i’ch cymdogaeth

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU