Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yw bob amser yn hawdd trefnu trip ar gyfer plentyn anabl, oherwydd nid oes gan rai lleoliadau gyfleusterau addas neu nid ydynt yn deall y sefyllfa'n iawn. Cyn i chi adael, efallai yr hoffech holi ynghylch y canlynol er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y diwrnod yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.
Mae rhai lleoliadau ac atyniadau yn well na'i gilydd am gynnig cyfleusterau a chymorth – felly mae’n siŵr y byddai'n syniad da i chi ffonio ymlaen llaw i drafod y pethau a allai helpu'ch plentyn a chithau ar y diwrnod. Gallai hyn gynnwys trefnu bwrdd yn y caffi/bwyty, cadw seddi mewn digwyddiad arbennig neu drefnu tywysydd.
Gallech hefyd wneud ymchwil ar-lein – bydd gan y mwyafrif o atyniadau eu gwefan eu hunain.
Mae nifer o leoliadau yn cynnig mynediad am ddim i blant ag anghenion arbennig a’u gofalwyr, felly cofiwch fynd â rhywbeth gyda chi i brofi eich bod yn ofalwr. Gallai hyn gynnwys eich llyfr neu’ch llythyr lwfans gofalwr neu Lwfans Byw i’r Anabl. Efallai y byddai'n werth i chi ffonio i archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn arbed amser ar ôl cyrraedd.
Mae rhai lleoliadau yn cynnig llefydd parcio ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ag anghenion arbennig. Mae'n bosib mai hyn a hyn o lefydd sydd ar gael a bod angen eu harchebu ymlaen llaw, felly ceisiwch ffonio ymlaen llaw fel y gellir dyrannu lle parcio ar eich cyfer. Neu, mae’r Cynllun Parcio Bathodyn Glas yn darparu amrywiaeth o gonsesiynau parcio i bobl a chanddynt broblemau symudedd difrifol ac sy'n ei chael yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Os nad oes gennych gar, gellir gwneud trefniadau arbennig ar gyfer teithwyr anabl neu deithwyr sydd â phroblemau symudedd pan fyddant yn teithio ar drên, ar fws moethus neu ar fws cyffredin. Hefyd, mae gostyngiadau ar gael i deithwyr anabl. Mae gan rai ardaloedd wasanaethau trafnidiaeth gymunedol hefyd ar gyfer pobl sy'n cael trafferth defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Gan y bydd angen i’ch plentyn gael mynediad i doiledau anabl neu i gyfleusterau newid o bosib, mae’n werth gwneud yn siŵr ymlaen llaw bod y rhain ar gael yn hwylus i chi. Mae angen allwedd i fynd i mewn i rai ohonynt, felly mae'n fuddiol i chi fod yn gyfarwydd â'r system. Mae allweddi ar gael ar gais gan y lleoliad fel rheol. Am bris isel iawn gallwch gael eich allwedd eich hun gan Radar, sy’n hyrwyddo'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol.
Os nad yw toiledau hwylus safonol yn diwallu’ch anghenion, ar wefan Changing Places gallwch roi manylion eich cyrchfan i ddod o hyd i doiledau sydd â chyfleusterau newid ar gyfer oedolion. Mae digon o le yn y cyfleusterau hyn i berson anabl a'r gofalwr, gyda mainc newid lle gellir addasu’r uchder a theclyn codi.
Os oes angen lifft arnoch i fynd o lawr i lawr, gwnewch yn siŵr bod lifftiau ar gael yn hwylus i chi. Nid oes gan rai lleoliadau lifftiau arbennig ar gyfer cwsmeriaid, ond efallai y byddant yn cynnig i chi ddefnyddio’r lifftiau preifat. Felly, fel gyda thoiledau, mae’n ddefnyddiol gwybod beth yw’r cyfleusterau.