Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleoedd i ymweld â hwy gyda’ch plant

Mae amryw o leoedd diddorol i chi ymweld â hwy gyda’ch plant ym mhob cwr o’r wlad – ac mae nifer ohonynt yn rhad ac am ddim. Y dyddiau hyn, mae hyd yn oed llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yn darparu arddangosiadau rhyngweithiol a phethau diddorol i chi eu gwneud. Yma cewch wybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Ffermydd ysgolion a ffermydd dinesig

Ceir 59 o ffermydd dinesig a 66 o ffermydd ysgolion ledled y DU. Maent yn rhoi cyfle gwych i blant weld - ac yn aml i chwarae a bwydo - anifeiliaid sydd newydd eu geni, fel ŵyn bach neu foch bach. Gall y plant hefyd weld tractorau wrth eu gwaith a dysgu sut mae tyfu bwyd.

Bydd dros dair miliwn o bobl yn ymweld â’r ffermydd hyn bob blwyddyn, ac mae’r pris mynediad naill ai’n isel iawn neu'n rhad ac am ddim. Hefyd, os byddwch yn un o'r oddeutu 500,000 o wirfoddolwyr sy'n rhoi help llaw ar y ffermydd hyn ledled y wlad, ni fydd byth angen i chi dalu.

Safleoedd treftadaeth

Mae dros 400 o safleoedd hanesyddol i ymweld â hwy yn Lloegr, gan gynnwys cestyll, palasau, abatai, plastai ac adfeilion hynafol fel Côr y Cewri. Fel rheol, darperir gweithgareddau hwyliog ar gyfer y plant. Mae amryw o’r llefydd hyn wedi cael eu defnyddio hefyd fel setiau ffilmiau y gallai’ch plant fod wedi’u gweld, fel Harry Potter.

Mae Tai’r Senedd (a elwir hefyd yn Balas Westminster) yn lle poblogaidd i blant hŷn ymweld ag ef. Y ffordd orau o drefnu ymweliad â Thai’r Senedd yw cysylltu â'ch AS lleol (Aelod Seneddol). I gael gwybodaeth am safleoedd hanesyddol eraill a pha ddigwyddiadau y maent yn eu cynnal, ewch i wefan English Heritage.

Teithiau’r BBC

Mae nifer o orsafoedd radio a theledu’r BBC, yn enwedig gorsafoedd rhanbarthol, yn cynnig teithiau tywys am ddim. Mae taith CBBC yn boblogaidd tu hwnt ymhlith plant iau. Gall plant dros saith oed fynd ar daith dwy awr o hyd o amgylch rhai o'u hoff stiwdios teledu, fel Gardd Blue Peter. Efallai y dônt wyneb yn wyneb â rhai enwogion hyd yn oed. Gallant hefyd gymryd rhan yn y daith ryngweithiol, a rhoi cynnig ar fod yn gyflwynwyr teledu eu hunain.

Llyfrgelloedd

mae modd cael mynediad i’r rhyngrwyd ym mhob llyfrgell gyhoeddus

Mae llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth enfawr o wasanaethau annisgwyl, a’r mwyafrif ohonynt yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn amrywio o fynediad ar y rhyngrwyd i gylchgronau, papurau newydd a dvds hyd yn oed. Ac wrth gwrs, mae’n dal yn bosib i chi gael benthyg llyfrau.

Mae modd cael mynediad i’r rhyngrwyd ym mhob llyfrgell gyhoeddus, felly gall plant fynd ar-lein pa bryd bynnag y dymunant. A does dim angen poeni am y gwefannau y gallant fod yn ymweld â hwy gan fod rheolaethau rhieni ar waith.

Mae amryw o lyfrgelloedd hefyd yn rhedeg clybiau gwaith cartref am ddim. Gall unrhyw blentyn dros wyth oed fynychu’r clwb, ac mae gan bob clwb gymhorthydd i’w helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt ar gyfer eu gwaith cartref. Anogir rhieni i fynychu’r clybiau hefyd er mwyn iddynt allu cynnig cymorth.

Amgueddfeydd ac orielau

O ddinosoriaid i rocedi gofod, o hanes lleol i gelf fodern - mae rhywbeth at ddant pawb yn y cannoedd o amgueddfeydd ac orielau ledled y wlad.

Yn ychwanegol at eu harddangosiadau, bydd amgueddfeydd ac orielau yn cynnal gweithdai, gweithgareddau a digwyddiadau arbennig yn aml. Bwriedir y rhain ar gyfer plant yn aml, ac fe'u trefnir fel rheol fel eu bod yn cyd-daro â’r gwyliau ysgol.

Gallwch ddefnyddio gwefan 24 Hour Museum i chwilio drwy’r holl ddigwyddiadau a gynhelir mewn amgueddfeydd ac orielau ym mhob cwr o’r DU.

Arddangosiadau ar-lein

Os nad oes arnoch eisiau teithio yn bell, gall plant bob amser fynd ar daith ar-lein o amgylch rhith-arddangosfa. Mae manylion y rhain i’w gweld ar wefan ‘Show me, a ddarperir gan 24 Hour Museum. Mae'n gasgliad cyffrous o gemau a chynnwys rhyngweithiol ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed, ac fe’u cynlluniwyd i annog plant i ymweld ag amgueddfeydd ac orielau.

Ceir hefyd adran arbennig ar gyfer rhieni a gofalwyr, sy’n cynnig syniadau i’ch helpu i ennyn diddordeb eich plentyn yn nhreftadaeth ddiwylliannol y wlad.

Additional links

Plannwch goeden

Bod yn rhan o’r Big Tree Plant a gwnewch wahaniaeth i’ch cymdogaeth

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU