Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n haws nag erioed i blant fod yn greadigol a chymryd rhan yn y celfyddydau. O ddosbarthiadau a chlybiau cerdd i actio, adrodd stori a pherfformio mewn syrcas hyd yn oed – mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnal naill ai yn ysgol eich plentyn neu’n rhywle arall yn eich ardal.
Yn aml, caiff clybiau cerdd eu cynnwys mewn gweithgareddau ar ôl ysgol neu mewn rhaglenni dysgu yn yr ysgol (fe’u gelwir weithiau yn rhaglenni Cymorth i Astudio). Bydd gan ysgol eich plentyn fwy o wybodaeth am hyn.
Gall eich awdurdod lleol roi gwybodaeth i chi hefyd am raglenni a chlybiau ar ôl ysgol. Yn aml, mae'u gwefan yn lle da i gael gwybod beth sydd ar gael, neu gallwch gysylltu â hwy'n uniongyrchol.
Ceir amryw o gynlluniau rhad neu am ddim dan nawdd y llywodraeth i helpu plant i gymryd rhan mewn addysg a digwyddiadau cerddorol. Efallai y dewch o hyd hefyd i sefydliadau neu unigolion yn eich ardal sy'n cynnal gweithdai a dosbarthiadau cerddoriaeth i blant am ffi.
Dyma rai sefydliadau a allai fod o ddiddordeb i chi:
Os yw’ch plentyn yn ddawnus neu’n dalentog, efallai y bydd yn gymwys i gael grant dan Gynllun Cerdd a Dawns y llywodraeth
Gall addysg gerddorol fod yn ddrud, ond mae cynlluniau a mentrau ar gael i helpu gyda'r costau.
Os yw’ch plentyn yn ddawnus neu’n dalentog, efallai y bydd yn gymwys i gael grant dan Gynllun Cerdd a Dawns y llywodraeth, a sefydlwyd i annog pobl ifanc.
Mae nifer o elusennau cerdd yn cynnig grantiau a allai helpu i dalu am wersi cerddoriaeth ar gyfer plentyn dawnus, neu helpu mewn ffyrdd eraill. Mae Awards for Young Musicians yn un o’r elusennau hyn, a gall ei gwefan eich cyfeirio at sefydliadau eraill a all helpu.
Gallwch roi manylion eich cartref ar y ddolen ganlynol, a bydd wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am wersi offerynnol yn eich ardal.
Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o weithgareddau celfyddydol eraill yn eich ardal ar wefan Plant a’r Celfyddydau Tywysog Cymru. Mae pob gweithgaredd celfyddydol lleol wedi’u rhestru, gan gynnwys gweithgareddau drama, dawnsio, peintio a thynnu llun, canu, adrodd stori a llawer mwy.
I weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen isod a rhoi'ch cod post neu enw’r rhanbarth lle rydych yn byw, yn ogystal ag ystod oed eich plant.
Mae amryw o blant wrth eu bodd â syrcas, a nawr mae ganddynt gyfle i fod yn rhan o syrcas. Mae llu o grwpiau ar hyd a lled y wlad yn cynnal cyrsiau sgiliau syrcas. Mae’r lleoliad yn dibynnu ar y cwmni sy'n rhedeg y cwrs – gall amrywio o ysgolion hyfforddiant syrcas arbenigol i fannau syrcas cymunedol, ysgolion a neuaddau eglwys.
Mae llond gwlad o sefydliadau, elusennau a grwpiau cymorth wedi ymrwymo i wella mynediad pobl anabl i weithgareddau a pherfformiadau celfyddydol. Mae rhai sefydliadau yn arbenigo mewn cynnwys pobl a chanddynt nam penodol. Gall y rhestr ganlynol o gysylltiadau defnyddiol eich helpu i gael gwybod mwy.